Dydd Mercher 26 Mai 2021 - Dydd Sul 27 Mehefin 2021
10:30 am - 4:00 pm
Arddangosfa gyntaf Kathryn Ashill mewn oriel gelf gyhoeddus yw Fools Gold, ac mae’n ganlyniad Gwobr Arlunydd Ifanc Syr Leslie Joseph, a weinyddir gan Gyfeillion y Glynn Vivian. Gall artistiaid o bob ran o’r DU sydd wedi cwblhau rhan o’u haddysg yng Nghymru ymgeisio am y wobr eilflwydd, ac mae’n cynnig cyfle gwych i artistiaid newydd gael eu harddangosfa unigol gyntaf mewn oriel gyhoeddus. Dewiswyd y wobr gan Lizzie Lloyd, ysgrifennwr a hanesydd celf, a Zehra Jumabhoy, beirniad celf, curadur a hanesydd celf sy’n byw yn y DU.
Gosodiad fideo yw Fools Gold sy’n archwilio hanes tadol yr artist. Byddai tad Ashill yn casglu pyrit haearn (aur ffyliaid) iddi o lofa frig ger eu cartref yng Ngwm Tawe, de Cymru. Mae’r gwaith yn symud rhwng y naratif hunangofiannol hwn a hanes Louis XIV, a adwaenid fel Brenin yr Haul wedi iddo ddawnsio ar gyfer y gwŷr llys, ac a’u gorfododd hefyd i’w addoli, wrth iddo wisgo mewn aur o’i gorun i’w sawdl.
Mewn modd doniol a chwareus, mae Ashill yn defnyddio estheteg ‘eich gwneud eich hun’ actio amatur i greu gwisgoedd a ‘setiau’ ac mae’n perfformio yn y rhain fel ei thad ac fel Brenin yr Haul. Yn yr arddangosfa, rydym yn mynd i mewn i ogof gartref o fyrddau theatr wedi’u paentio sy’n ein denu i’r gosodiad fideo canolog.
Mae arfer amlddisgyblaethol Ashill yn cynnwys actio amatur, byrddau theatr, diwylliant Brenin Drag, fideo a pherfformiad sy’n defnyddio’i phrofiadau personol o ddiwylliant uchelradd a hunaniaeth dosbarth gweithiol.
Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys llyfr artist newydd gyda chelfweithiau comisiwn gan Tanad Aaron, Cian Donnelly, Rowan Lear a Fern Thomas.
Meddai Kathryn Ashill, “Mae ennill Gwobr Arlunydd Ifanc Syr Leslie Joseph 2019 yn rhoi cyfle i mi feddiannu a hawlio lle y tu hwnt i’r perfformiad byw. Am fy mod wedi fy magu yn Abertawe, mae’r Glynn Vivian wedi chwarae rhan bwysig yn fy nghyflwyniad i gelf gyfoes. Roedd cael mynediad i’r oriel drwy addysg ar ddiwedd y 1980au a dechrau’r 1990au wedi sbarduno ymrwymiad gydol oes i greu celf a dod yn artist. Rwyf wedi arddangos fy ngwaith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol trwy yrfa eang, ond mae arddangos yn y Glynn Vivian yn gwireddu breuddwyd gydol oes. Mae hwn yn groeso’n ôl heb ei ail!”
Meddai’r dewisiwr Lizzie Lloyd, “Roedd cais Kathryn ar gyfer Gwobr Leslie Joseph yn ffres, yn ddi-ofn ac yn ddoniol dros ben – mae ganddi’r potensial i wneud rhywbeth cyffrous iawn gyda Glynn Vivian.”
Meddai’r dewisiwr Zehra Jumahoy, “Roeddwn i’n meddwl bod gwaith Kathryn yn llawn hwyl ac roeddwn i’n dwli ar y ffordd mae’n gwthio’r cyfrwng perfformio i gyfeiriadau sy’n ymdrin â hunaniaeth ddiwylliannol a dawns fasgiau. Rwy’n edrych ymlaen at weld yr hyn y mae’n ei gwneud nesaf ac, efallai , cwrdd â Goat Major.”
Meddai Kay Renfrew o Gyfeillion Oriel Gelf Glynn Vivian, “Mae Gwobr Leslie Joseph yn gyfle gwych i ddod ag artist ifanc o Gymru i gynulleidfa ehangach, ac i roi’r profiad iddynt o arddangos mewn oriel nodedig, gan weithio gyda swyddog arddangosfa a churadur sefydledig. Mae’r Cyfeillion wrth eu bodd yn cefnogi’r wobr ac rydym yn siŵr y bydd Kathryn Ashill yn creu arddangosfa gyffrous.”
Digwyddiadau
Dydd Gwener 11.06.21, 6:00pm – 12:00am
Arddangosiad or ffilm Fools Gold, ar gael ar lein ar You Tube video premiere
Dydd Gwener 18.06.21, 8:00pm
Ymunwch gyda Kathryn am diwtorial colur gyda Brenin Drag, Len Blanco
Brenin drag ‘genderqueer’, gwneuthurwr theatr ac addysgwr o Gaerdydd yw Len Blanco. Mae’n aml yn perfformio yn lleoliadau cyfunrywiol Llundain fel digrifwr cymeriad, cantor a gwesteiwr, ac yn cynnal gweithdai colur ar gyfer y rheini sydd am archwilio bod yn frenin drag. Fe’i disgrifiwyd gan rywun yn TimeOut fel “talent aruthrol”, ond mewn gwirionedd, mae’n ceisio gwneud yn iawn am y gradd C a gafodd yn Safon Uwch Drama am fod yn rhy dawel.
Dydd Gwener 23.06.21, 7:00pm – GOHIRIWYD
Sgwrs Artist
Dydd Gwener 25.06.21, 6:00pm – 12:00am
Arddangosiad or ffilm Fools Gold, ar gael ar lein ar You Tube video premiere
Dydd Sadwrn 26.06.21, 10:30am – 1:00pm
Gweithdai Dydd Sadwrn i Oedolion: Naratifau i Greu Bwrdd Stori
Gwobr Arlunydd Ifanc Syr Leslie Joseph
Ariennir y wobr gan etifeddiaeth hael gan ystad y diweddar Syr Leslie Joseph ac fe’i gweinyddir gan Gyfeillion Oriel Gelf Glynn Vivian. Mae enillwyr blaenorol y wobr yn cynnwys Daniel Mulloy, James Donovan, Will Nash, Tomas Lewis, Richard Monahan a Heather Phillipson.
Kathryn Ashill – Bywgraffiad Cryno
Ganwyd Kathryn Ashill yn Abertawe ym 1984 ac mae’n byw ac yn gweithio yn Ynys y Barri. Enillodd Ashill radd BA Anrhydedd Celfyddyd Gain (Cyfryngau Cyfun) ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe (PCYDDS bellach) ac mae ganddi radd MFA o Ysgol Gelf Glasgow, ac mae wedi arddangos ei gwaith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae Ashill yn ymgeisydd PhD ar sail arfer ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Manceinion, lle mae’n ymchwilio i botensial cydweithio rhwng rhywogaethau mewn creu gwaith celf trwy berfformio a bio therapi. Ariennir y gwaith ymchwil hwn gan Ymddiriedolaeth Wellcome.
Bywgraffiad Cryno’r Dewiswyr
Lizzie Lloyd
Magwyd Lizzie Lloyd yn Abertawe ac mae’n hanesydd ac yn awdur celf. Mae’n darlithio mewn Celfyddyd Gain a Chelf a Diwylliant Gweledol ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr. Cafodd ei thestunau eu comisiynu gan Goleg Celf Plymouth, Phoenix (Exeter), Oriel Hestercombe (Taunton), Orielau UH (Hatfield). Cyfrannodd at brosiect Cubitt Education Community Studios (Llundain) yn ddiweddar. Mae ei gwaith ysgrifenedig wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau megis Art Monthly, Journal of Contemporary Painting ac artnet. Roedd hi’n artist preswyl yn Arnolfini yn 2016 ac yn Plymouth yn 2017. Mae newydd gwblhau ei thesis doethurol ar Ysgrifennu am Gelf a Goddrychiaeth ym Mhrifysgol Bryste.
Zehra Jumabhoy
Mae Zehra Jumabhoy yn feirniad celf, curadur a hanesydd celf yn y DU sy’n arbenigo mewn celf fodern a chyfoes. Roedd hi’n ysgolhaig Steven ac Elena Heinz yn Sefydliad Celf Courtauld, Llundain, lle cwblhaodd ei doethuriaeth ar gelf gyfoes a chenedlaetholdeb India ac ar hyn o bryd mae’n Ddarlithydd Cysylltiol. Cyhoeddwyd ei llyfr, The Empire Strikes Back: Indian Art Today, gan Random House, Llundain, yn 2010.
Categorïau