Dydd Mercher 16 Ebrill 2025
1:30 pm - 3:30 pm
Ewch ati i greu eich byd bach eich hun mewn blwch esgidiau yn y gweithdy difyr a hamddenol hwn sy’n galluogi’r holl deulu i weithio gyda’i gilydd!
13:30-15:30
Gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydain, mae’r addasiad hwn o weithdy’r Pasg wedi’i lunio’n benodol i blant oedolion byddar.
Pa mor bell gall eich dychymyg gyrraedd?
A fyddwch yn teithio o dan y môr neu i’r gofod?
A fyddwch yn creu eich byd ffantasi eich hun, neu rywbeth o fywyd pob dydd?
Gan ddefnyddio technegau a deunyddiau crefft, ewch ati i baentio a chreu eich bydysawd bach eich hun gyda chymorth ein tîm dysgu.
Dewch â’ch blwch esgidiau eich hun neu crëwch un ar y diwrnod gan ddefnyddio tâp cardbord a rhywfaint o ddyfeisgarwch.
Mae’r gweithdai hyn yn ddelfrydol i deuluoedd sydd am gydweithio i wireddu eu syniadau.
Yn addas i blant 3+ oed Darperir yr holl ddeunyddiau.
Mae’n rhaid i blant dan 10 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Am ddim, rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Book now – Easter Family Workshop: CODA Small Worlds (BSL interpreted)
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau