Dydd Sadwrn 20 Ebrill 2024
10:00 am - 4:00 pm
Ymunwch â’n gweithdai celf hygyrch i oedolion ar ddydd Sadwrn olaf bob mis.
Cyflwynir technegau, syniadau a deunyddiau bob mis sy’n seiliedig ar ein rhaglen o arddangosfeydd.
Ar gyfer oedolion 16+ oed
Ymunwch â’r artist a’r seramegydd, Esther Ley, i arbrofi ac i ddysgu technegau a sgiliau i’ch dechrau ar eich taith geramig.
10:00-12:30
- Adeiladu slab sylfaenol
- Defnyddio patrymau i greu gwrthrychau
- Deall technegau cyfuno clai
- Deall yr offer sydd ar gael a’u defnyddiau
Egwyl ar gyfer cinio
13:30-16:00
- Gosod arwyneb addurnol ar grochenwaith heb ei danio.
- Archwilio dulliau o ychwanegu addurniadau lliwgar i seramig e.e. sgraffito, monoprint, stensiliau
- Defnyddio’r technegau hyn yn effeithiol i greu arwyneb addurnol.
Rhaid cadw lle. Tocynnau £40. Mae lleoedd yn brin. Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i’n cymuned ffoaduriaid ac unigolion sy’n ceisio lloches neu’r rheini â Phasbort i Hamdden. Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion.
CADWCH LLE NAWR
Cadwch lle nawr – Gweithdy Penwythnos i Oedolion, Cyflwyniad i ddosbarth meistr seramig
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau