Dydd Sadwrn 28 Hydref 2023
10:30 am - 2:30 pm
Ar gyfer oedolion 16+ oed
Ymunwch â’n gweithdai celf hygyrch i oedolion, cyflwynir technegau, syniadau a deunyddiau bob mis sy’n seiliedig ar ein rhaglen o arddangosfeydd.
SELF’ – Portread o Fywyd
Cyfle i ddysgu am ‘Aildanio’, Gwobr Gelf Celfyddydau Anabledd Cymru, gyda’r artist arddangos, Roz Moreton.
Gofynnir i gyfranogwyr y gweithdy edrych ar eu hunain a thrafod eu heiliad ‘Aildanio’ eu hunain, beth bynnag y bo hynny.
Dyma gyfle i archwilio a chofnodi ffyrdd creadigol o arsylwi ar ‘eich hunan’, archwilio’ch teimladau a’ch emosiynau eich hunan, a sut y gallwch gynrychioli’r rhain yn greadigol gan ddefnyddio natur a deunyddiau cynaliadwy i greu delweddau a gwrthrychau sy’n cyfleu portread unigryw ohonoch chi’ch hun.
Does dim angen profiad. Darperir yr holl ddeunyddiau.
Am ddim. Lleoedd yn brin. Rhaid cadw lle. Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
CADWCH LLE NAWR
https://www.glynnvivian.co.uk/cadwch-lle-nawr-gweithdy-penwythnos-i-oedolion-self-portread-o-fywyd-gyda-roz-moreton/
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau