Dydd Sadwrn 29 Hydref 2022
10:30 am - 1:00 pm
Ymunwch â’n gweithdai celf hygyrch i oedolion ar ddydd Sadwrn olaf bob mis.
Cyflwynir technegau, syniadau a deunyddiau bob mis sy’n seiliedig ar ein rhaglen o arddangosfeydd.
Codir ffi fach ar gyfer pob gweithdy i dalu am gostau deunyddiau neu offer a fydd ar gael i’w cadw ar ôl y gweithdy lle bo’n berthnasol
Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i’n cymuned ffoaduriaid ac unigolion sy’n ceisio lloches neu ar incwm isel. Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion.
Portreadau ffotorealaidd
Cyfle i greu portread ffotorealaidd monocrom gyda thro Calan Gaeaf annisgwyl. Ar gyfer y gweithdy hwn bydd angen i chi argraffu ffotograff hunanbortread du a gwyn maint A4 o’r ysgwyddau i fyny, a dod ag ef gyda chi. Caiff hwn ei ddefnyddio i dynnu llun arno yn y gweithdy.
29.10.22, 10.30am – 13:00
Does dim angen profiad. Darperir yr holl ddeunyddiau.
HYSBYSIAD PWYSIG: Dewch â chinio pecyn a lluniaeth gyda chi gan y bydd ein caffi ar gau.
£5
Ar gyfer oedolion 16+ oed
Cadwch lle nawr – Gweithdy Penwythnos i Oedolion: Portreadau
Categorïau