Dydd Sadwrn 30 Medi 2023
11:30 am - 2:00 pm
Ymunwch â’n gweithdai celf hygyrch i oedolion, cyflwynir technegau, syniadau a deunyddiau bob mis sy’n seiliedig ar ein rhaglen o arddangosfeydd.
Mae Phillippa Walter yn wneuthurwr printiau proffesiynol sy’n byw yng Nghymru sy’n arbenigo mewn gwneud printiau cerfwedd. Bydd y sesiwn i ddechreuwyr yn gyfle i ddylunio, cerfio a phrintio’ch print torlun leino eich hun gydag arweiniad arbenigol gan Phillippa Walter. Yn y sesiwn hon cewch yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i ddechrau ar eich taith gwneud printiau eich hun.
Does dim angen profiad. Darperir yr holl ddeunyddiau.
Am ddim. Lleoedd yn brin. Rhaid cadw lle. Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
CADWCH LLE NAWR
https://www.glynnvivian.co.uk/cdwch-lle-nawr-gweithdy-penwythnos-i-oedolion-gwneud-printiau-torlun-leino-i-ddechreuwyr-gyda-phillippa-walter/
Astudiodd a hyfforddodd Phillippa fel darlunydd am saith mlynedd ar draws y DU ac Ewrop. Ar ôl graddio, a chael hoe yn teithio, darganfu’r gelfyddyd gwneud printiau ac mae wedi treulio’r 6 blynedd diwethaf yn datblygu ei sgiliau ac yn adeiladu ei gyrfa fel gwneuthurwr printiau masnachol. Ysbrydolir ei gwaith gan ei chariad at blanhigion ac anifeiliaid penrhyn Gŵyr yn ogystal â nofio a syrffio yn ei bywyd pob dydd. Gellir gweld ei gwaith ar hyn o bryd yn arddangosfa Gwobr Gelf CAC sef ‘Aildanio’.
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau