Dydd Sadwrn 26 Chwefror 2022
10:30 am - 1:30 pm
Ymunwch â’n gweithdai celf hygyrch i oedolion ar ddydd Sadwrn olaf bob mis.
Cyflwynir technegau, syniadau a deunyddiau bob mis sy’n seiliedig ar ein rhaglen o arddangosfeydd.
Codir ffi fach ar gyfer pob gweithdy i dalu am gostau deunyddiau neu offer a fydd ar gael i’w cadw ar ôl y gweithdy lle bo’n berthnasol
Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i’n cymuned ffoaduriaid ac unigolion sy’n ceisio lloches neu ar incwm isel. Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion.
26.02.22
Eich siâp chi
Gan ddefnyddio technegau castio, byddwch yn creu ffurfiau cerfluniol gan ddefnyddio gwrthrychau domestig.
£10
Ar gyfer oedolion 16+ oed
Cadwch lle nawr – Gweithdy Penwythnos i Oedolion: Eich siâp chi
Categorïau