Dydd Sadwrn 25 Mehefin 2022
10:00 am - 3:00 pm
Ymunwch â’n gweithdai celf hygyrch i oedolion ar ddydd Sadwrn olaf bob mis.
Cyflwynir technegau, syniadau a deunyddiau bob mis sy’n seiliedig ar ein rhaglen o arddangosfeydd.
Codir ffi fach ar gyfer pob gweithdy i dalu am gostau deunyddiau neu offer a fydd ar gael i’w cadw ar ôl y gweithdy lle bo’n berthnasol
Caiff y rhan fwyaf o’r deunyddiau eu cynnwys yn y gweithdy. Darperir rhestr o ddeunyddiau ychwanegol y bydd angen i gyfranogwyr ddod â nhw.
Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i’n cymuned ffoaduriaid ac unigolion sy’n ceisio lloches neu ar incwm isel. Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion.
Llifynnau Naturiol
Chwilota: Lliwiau Gwyllt gyda Cath Lewis
25.06.22, 10.00am – 15:00
Yn y gweithdy cyflwyno byr hwn, bydd cyfranogwyr yn darganfod byd lliwiau ar liain trwy ddefnyddio ffynonellau planhigion lleol a phethau a gafwyd.
Byddwch yn dysgu sut i ddod o hyd i blanhigion i greu llifynnau trwy chwilota’n egwyddorol, defnyddio planhigion yr ardd a thrwy archwilio llifynnau o gynhyrchwyr llifynnau naturiol a chynaliadwy a phethau a gafwyd.
Byddwn yn tynnu lliwiau drwy ddefnyddio techneg llifo trwy drochi, yn printio’n uniongyrchol ac yn trin defnydd mewn ffordd syml trwy dechnegau gwrthsefyll trwy rwymo (clampio a chlymu) i greu patrymau diddorol.
Does dim angen profiad
£20
Ar gyfer oedolion 16+ oed
Cadwch lle nawr – Gweithdy Penwythnos i Oedolion: Llifynnau Naturiol
Categorïau