Dydd Sadwrn 26 Mehefin 2021
10:30 am - 1:00 pm
Mae ein Gweithdai Dydd Sadwrn i Oedolion yn dychwelyd ar ddydd Sadwrn olaf bob mis.
Rhowch gynnig ar dechneg celf neu grefft newydd bob mis, wedi’i hysbrydoli gan artistiaid yn ein rhaglen arddangosfeydd gyfredol.
Fools Gold Kathryn Ashill – Naratifau i Greu Bwrdd Stori
Ymunwch â thîm dysgu’r oriel am weithdy arbennig gyda derbynnydd gwobr Syr Leslie Joseph 2020, Kathryn Ashill.
Cewch ddysgu sut roedd yr artist wedi creu ei ffilm ‘Fools Gold’ ac archwilio’r broses y tu ôl i greu ffilm sy’n seiliedig ar eich naratifau personol eich hun.
Bydd angen y rhain arnoch:
- Llyfr brasluniau – A5 o ddewis Llyfr bach y gallwch ei drysori (rhywbeth y byddwch efallai am greu clawr ar ei gyfer – rwy’n trin fy llyfrau bwrdd stori fel cofrodd)
- Cwpwl o ddalenni o bapur sgrap i fapio’r stori fywgraffiadol rydych am ei hadrodd a map o drefn y bwrdd stori.
- Pensil a beiro – i gymryd nodiadau a marcio’ch bwrdd stori, drafftio cyn lliwio.
- Pinnau ffelt – rwy’n dwlu ar binnau tenau golchadwy Crayola, maen nhw’n gwneud i liwio deimlo fel paentio (does dim terfyn ar beth y gallwch chi ei ddefnyddio – dylai fod yn ymwneud â beth sy’n eich cyffroi, felly dyfrlliwiau, pensiliau dyfrlliw, pensiliau lliwio neu unrhyw beth sy’n addas ar gyfer eich arddull esthetig)
Cynhelir y gweithdy hwn yn fyw ar Zoom.
Cofrestrwch yma: https://zoom.us/meeting/register/tJArfu6hpjIoHdPvL37Yphu9p8BzP0barVql
Rhaid cadw lle. Un tocyn fesul person/dyfais ddigidol
Am ddim i gymryd rhan ynddo ar-lein Does dim angen talu.
Categorïau