Dydd Sadwrn 17 Chwefror 2024
11:00 am - 2:00 pm
Gweithio gyda thecstilau
Ymunwch ag artist gludafael / holdfast Rhys Slade Jones, yn y gweithdy archwiliol hwn.
Sut ydych chi’n dymuno cael gofal? Gan ddefnyddio technegau pwytho, cwiltio ac appliqué, ystyriwch a heriwch ein syniadau am henaint, gofal cymdeithasol a pherchnogaeth gymunedol.
Rhaid cadw lle. Tocynnau £3. Mae lleoedd yn brin. Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i’n cymuned ffoaduriaid ac unigolion sy’n ceisio lloches neu’r rheini â Phasbort i Hamdden. Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion.
CADWCH LLE NAWR
Cadwch lle nawr – Gweithdy i Oedolion ar y Penwythnos, Rhys Slade Jones
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Caiff Neuadd Henoed Treherbert ei dwyn i’r oriel ar ffurf fechan gan Rhys Slade-Jones, wedi’i phwytho ynghyd o lenni melfed llwyfan y neuadd. Ar gyfer graddfa tebyg i babell, mae Rhys yn gwneud defnydd o ddimensiynau sy’n perthyn i’w mam ac iddyn nhw eu hunain, gan godi cwestiynau am yr hyn rydym yn ei etifeddu a’r hyn rydym yn ei adael ar ôl, ar raddfa blanedol amlgenhedlaeth. Wrth greu’r model hwn o le cymunedol sy’n unigryw o arbennig, mae’r artist yn gofyn pa adeileddau y mae arnom eu hangen ar gyfer y dyfodol, a pha fath o henaint yr hoffem ei gael pan gyrhaeddwn yno.
Categorïau