Dydd Sadwrn 10 Chwefror 2024
11:00 am - 2:30 pm
Gweithdy creu gweledigaeth Breuddwyd/Dreaming
Hiaku ac Ikigai cysegredig Dangos newid cadarnhaol
Mae NON yn berfformiad promenâd: breuddwyd sy’n ddathliad o fam Dewi Sant, y fam ddaear. Caiff y perfformiad symbolaidd a myfyriol hwn ei weld ar y sgrîn.
Yn y gweithdy hwn, bydd cyfle i arafu, i fyfyrio, i rannu gweledigaeth dyner, i ystyried a myfyrio ar wneud y pethau bychain, gyda’n gilydd. Bydd y gweithdy hwn yn gweithio gyda gwaith NON Heledd sy’n cael ei ddangos yn y Glynn Vivian y mae ganddo liw canolog, sef melyn, a thema gobaith, urddas a harddwch. Mae’r gwaith sydd wedi bod ar daith yn meithrin ymdeimlad o ryddid, ysbrydoliaeth a phŵer.
Mae gweithdy NON yn eich gwahodd i ddod i gyflwr o dawelwch, llonyddwch a phresenoldeb: i freuddwydio am ddyfodol heddychlon a chadarnhaol i Gymru. Pan fyddwn yn arafu, gallwn ddarganfod gwledd o ddoethineb a chael y cyfle i ystyried sut i ofalu am ein hunain a Chymru yn y dyfodol.
Yn y digwyddiad hwn byddwn yn trafod sut mae bod mewn natur yn cael effaith gadarnhaol ar ein creadigrwydd a sut i i ystyried cyfansoddi a fframio i rannu ein gweledigaeth Cewch eich trochi gan gerddoriaeth a’ch amgylchynu gan goed a byddwch yn darganfod pŵer y goedwig. Mae dull syml ymdrochi yn y goedwig, bod yn dawel ac yn llonydd ymysg y coed, arsylwi ar natur o’n cwmpas wrth anadlu’n ddwfn yn gallu helpu straen a hybu iechyd a lles mewn ffordd naturiol. Bydd Heledd hefyd yn archwilio ysgrifennu mynegiannol drwy gerddi Haiku.
Rhaid cadw lle. Tocynnau £3. Mae lleoedd yn brin. Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i’n cymuned ffoaduriaid ac unigolion sy’n ceisio lloches neu’r rheini â Phasbort i Hamdden. Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion.
CADWCH LLE NAWR
Cadwch lle nawr – Gweithdy i Oedolion ar y Penwythnos, Heledd Wyn
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Mae gosodiad Heledd Wyn yn deillio o’i hymchwil i hanes cynhyrchu cywarch yng Nghymru a’r ffyrdd y mae cywarch, fel cnwd amlbwrpas a ddefnyddir i wneud bioddeunyddiau a all fod yn fioddiraddadwy ac y gellir eu compostio yn eu tro, yn rhan o system gylchol pridd i bridd. Mae’r gosodiad yn cynnwys planed, a elwir yn NON, ac mae Heledd yn dweud taw’r un peth y gall pob un ohonom ei wneud, ymysg yr holl bryder a gofid am yr argyfwng hinsawdd, yw arafu, prynu llai a gwneud llai. Sut y mae pŵer mewn peidio â gweithredu er mwyn dod o hyd i gydbwysedd.
Categorïau