Dydd Mawrth 30 Mai 2023
11:00 am - 3:00 pm
Cyfle i greu model o ddinas ar raddfa gydweithredol gan ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu a llawer o dâp masgio!
Oed 5+. Darperir yr holl ddeunyddiau.
Mae’n rhaid i blant dan 10 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Am ddim, Rhodd o £3 yn ddewisol
Gallwch ddweud wrthym eich bod yn bwriadu dod drwy archebu ar-lein, fodd bynnag, nid yw archebu ymlaen llaw yn hanfodol a gallwch ddod ar y diwrnod.
Os byddwch yn dod i weithdy neu ddigwyddiad, gofynnwn i chi gofrestru gyda ni drwy ddefnyddio ein system docynnau, naill ai cyn neu pan fyddwch yn ymweld, i’n helpu i ddysgu mwy am y bobl sy’n dod i’r Oriel.
Bydd yr wybodaeth rydych yn ei darparu’n ein helpu i gofnodi’r niferoedd sy’n dod i’n gweithdai fel y gallwn gasglu data a gweld pa mor dda rydym yn ei wneud.
Caiff unrhyw beth rydych yn ei ddweud wrthym ei gadw’n gyfrinachol, bydd yn ddi-enw ac fe’i defnyddir at ddibenion ymchwil yn unig. Bydd yr wybodaeth rydych yn ei darparu’n cael ei dal gan Gyngor Abertawe.
Rhan o raglen o weithgareddau i gyd-fynd â’n harddangosfa gyfredol, His Dark Materials: Creu Bydoedd yng Nghymru, mewn partneriaeth â Bad Wolf Ltd, IJPR Media a Screen Alliance Wales
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
CADWCH LLE NAWR
https://www.glynnvivian.co.uk/cadwch-lle-nawr-gweithdy-hanner-tymor-i-deuluoedd-creu-bydoedd/
Categorïau Dim categorïau