Dydd Sadwrn 28 Medi 2024
1:00 pm - 3:00 pm
Oed 14+
Yn y gweithdy ffotograffiaeth sglefrfyrddio dwy ran hwn bydd cyfranogwyr yn dysgu’r sgiliau hanfodol y mae eu hangen arnynt i dynnu lluniau o eiliadau sglefrfyrddio dynamig, gan ddefnyddio dyfeisiau symudol fel iPads a ffonau.
Dewch â dyfais symudol gyda chi os oes gennych un. Mae nifer bach o ddyfeisiau ar gael i’w defnyddio gan yr Oriel.
Diwrnod 1: Dysgu a dadansoddi (28 Medi yn Oriel Gelf Glynn Vivian)
Yn y sesiwn hon, bydd cyfranogwyr yn edrych ar elfennau allweddol ffotograffiaeth, a bydd ffocws ar symudiadau a chwaraeon Byddwn yn ymdrin â’r canlynol:
- Cyfansoddiad: Sut i fframio saethiadau symud, defnyddio llinellau arweiniol a thynnu lluniau o eiliadau pwerus yn yr amgylchedd sglefrfyrddio.
- Gosodiadau camera ar gyfer dyfeisiau symudol: Sut i fanteisio i’r eithaf ar y modd saethu parhaol (neu’r modd chwaraeon), clo ffocws a gosodiadau eraill sy’n helpu i rewi testunau sy’n symud yn gyflym.
- Onglau a phersbectifau: Technegau ar gyfer saethu o wahanol onglau i ddal egni’r sglefrfyrddiwr.
- Dadansoddiad o ffotograffau sglefrfyrddio eiconig: Dadansoddiad o ffotograffiaeth sglefrfyrddio adnabyddus, gan drafod sut maent yn dal symudiadau, personoliaeth a’r diwylliant sglefrfyrddio.
Bydd hon yn sesiwn ryngweithiol, gyda chyfleoedd i drafod ac ymarfer y sgiliau hyn i baratoi’r cyfranogwyr ar gyfer y sesiwn ymarferol.
Diwrnod 2: Sesiwn ymarferol (5 Hydref ym mharc sglefrfyrddio Exist)
Mae’r ail sesiwn hon yn ymwneud â rhoi damcaniaeth ar waith. Bydd y cyfranogwyr yn mynd i’r parc sglefrfyrddio lle byddant yn tynnu lluniau o sglefrfyrddwyr go iawn yn sglefrfyrddio. Yma byddant yn defnyddio:
- Technegau ffotograffiaeth symud: Dal egni a symudiad sglefrfyrddwyr mewn amgylchedd bywiog, ‘byd go iawn’.
- Cyfansoddiad ac amseru: Dod o hyd i’r eiliadau iawn i saethu delweddau llawn effaith.
- Ymwneud ag amgylchedd y parc sglefrfyrddio: Dysgu sut i symud o gwmpas y lle yn ddiogel, rhagweld symudiad a gweithio gyda sglefrfyrddwyr i gael y lluniau gorau.
Erbyn diwedd y gweithdy, bydd y cyfranogwyr wedi datblygu portffolio o ffotograffiaeth sglefrfyrddio a’r hyder i ymhél â ffotograffiaeth fyw/chwaraeon ar eu pennau eu hunain.
Am ddim, rhaid cadw lle
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
CADWCH LLE NAWR
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau