Dydd Sadwrn 17 Rhagfyr 2022
10:30 am - 1:00 pm
Dewch i greu eich “Dyfais Dweud y Gwir” eich hunan gan ddefnyddio deunyddiau sydd wedi’u hailgylchu, yr unig derfyn yw eich dychymyg!
Gallwch ddysgu technegau gwahanol i wella’ch creadigaethau.
Dewch i ddylunio, adeiladu a phaentio gwrthrychau arallfydol wedi’u hysbrydoli gan yr arddangosfa “World Building in Wales” sy’n cynnwys propiau o’r gyfres HBO/BBC boblogaidd, His Dark Materials.
Bydd y drydedd gyfres ar gael o 18 Rhagfyr – gallwch wylio’r cyfresi cyntaf nawr ar BBC iPlayer!
Croeso i bob oedran
HYSBYSIAD PWYSIG: Dewch â chinio pecyn a lluniaeth gyda chi gan y bydd ein caffi ar gau.
Galw heibio, does dim angen cadw lle.
Am ddim, Rhodd o £3 yn ddewisol
Categorïau