Dydd Sul 13 Mawrth 2022 - Dydd Sul 27 Mawrth 2022
12:30 pm - 3:30 pm
Ymunwch â ni am gyfres newydd o weithdai creadigol i bobl ifanc 16 i 24 oed drwy gydol mis Mawrth yn Oriel Gelf Glynn Vivian.
Bob dydd Sul, 12:30-15:30
13.03.22, 20.03.22, 27.03.22
Cewch weithio gyda thîm o Artistiaid Cyswllt y Glynn Vivian i ddysgu sgiliau newydd ac arbrofi gyda deunyddiau a thechnegau gwahanol yn y gyfres hon o weithdai creadigol i bobl ifanc.
Does dim angen profiad blaenorol. Darperir yr holl ddeunyddiau. Caiff cinio a phasys bws drwy’r dydd eu cynnwys.
Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw ofynion mynediad.
E-bostiwch Daniel.McCabe@abertawe.gov.uk
Neu ffoniwch 01792 516 900 am ragor o wybodaeth
Anfonwch neges atom yn @GlynnVivian
Rhan o raglen gweithgareddau i blant ‘Gaeaf Llawn Lles’ sy’n cael ei chynnal ar draws Abertawe, y’i gwnaed yn bosib gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.
Categorïau