Dydd Iau 19 Awst 2021
11:00 am - 1:00 pm
Fy nhŷ i yw’r bobl dwi’n eu caru…Prosiect cerflun cardbord cydweithredol
Bob dydd Iau yn ystod gwyliau’r haf, gallwch gadw lle ar gyfer ein gweithdai creadigol i blant, lle byddant yn archwilio’r defnyddiau, y syniadau a’r technegau a ddefnyddiwyd gan Carlos Bunga yn ei arddangosfa, Terra Ferma.
Prosiect cerflunio cydweithredol i’r teulu yw Fy nhŷ i yw’r bobl dwi’n eu caru…sy’n defnyddio technegau cardbord wedi’i dorri i archwilio’r ymdeimlad o gartref, fel adeiladwaith o syniadau, pobl a defnyddiau.
Yn y prosiect a gynhelir bob dydd Iau, gall teuluoedd archwilio’r syniad o gartref fel lle creadigol sy’n fwy na brics a morter.
Yna bydd y prosiect yn edrych ar greu cysylltiadau rhwng y creadigaethau, gan ddatblygu cerfluniau cydweithredol a chysylltu gwaith y cyfranogwyr at ei gilydd i greu mas cerfluniol enfawr, newidiol ac esblygol dros gwrs yr haf.
CADWCH LLE NAWR
Dydd Iau: 11:00-12:00, 13:00 –14:00, 15:00-16:00
Categorïau