Dydd Sadwrn 13 Mawrth 2021
10:30 am - 11:30 am
Gweithdy Gêm Fwrdd Mapiau Hudol 3D
Cynhelir Gweithdai Dydd Sadwrn i’r Teulu ddydd Sadwrn Cyntaf pob mis. Mae’r gweithdai cyfeillgar hyn i deuluoedd â phlant 6-10 oed yn gyfle i greu gyda’n gilydd, arbrofi â syniadau newydd a dysgu am rai o’r celfweithiau gwych sydd gennym yn Oriel Gelf Glynn Vivian.
Wedi’i ysbrydoli gan ein harddangosfa newydd, Grounded, gan Peter Matthews, dewch i gasglu, arlunio ac adeiladu eich Map Hudol 3D eich hun a’i droi’n gêm fwrdd ffantasi.
Byddwn yn casglu sbrigynnau bach, brigau, cerrig a chregyn o’n cymdogaeth ac yn eu defnyddio fel ysbrydoliaeth wrth ddylunio mapiau a gemau bwrdd 3D. Drwy ddefnyddio codau creu mapiau syml, byddwn yn llunio map ac yn ei lenwi gyda’r holl fanylion cyn mynd ati i droi ein heitemau a gasglwyd yn adeiladau, coedwigoedd a mynyddoedd hudol. Yna, byddwn yn creu llwybr, thema a chymeriadau er mwyn adeiladu ein gêm fwrdd bersonol ein hunain.
Ar gyfer y prosiect hwn, bydd angen i chi gasglu rhai eitemau i ddod â nhw i’r gweithdy. Ond peidiwch â phoeni os byddwch yn anghofio, does dim rhaid i chi gael y rhain.
Bydd angen y rhain arnoch:
- Papur trwchus wedi’i staenio â choffi (gwnewch goffi cryf a brwsiwch y coffi ar hyd eich papur a’i adael i sychu)
- blwch esgidiau gyda chlawr ar wahân (opsiynol)
- pensil
- glud
- pin du tenau
- Plastisin/Fimo
- paent du a brwsh paent bach
- deunyddiau lliwio
- dis a chasgliad o gerrig/cregyn/cerrig bychain/cregyn malwod gwag (rhwng maint mesen a chneuen Ffrengig a dewiswch un ag ochr wastad fel ei bod yn gorwedd ar y papur yn rhwydd)
- dau frigyn bach tenau, sych (dychmygwch goed bach dim uwch nag uchder eich bys)
Cynhelir y gweithdy hwn yn fyw ar Zoom.
Archebwch eich tocyn yma: https://zoom.us/j/94094087469?pwd=TTVScmY4dk9GeXd3elhuODVCcHU4UT09
Rhaid cadw lle: Un tocyn fesul teulu/dyfais ddigidol.
Am ddim i gymryd rhan ynddo ar-lein Does dim angen talu.
Categorïau