Dydd Sadwrn 15 Mai 2021
10:30 am - 11:30 am
Portreadau Crefft Papur
Cynhelir Gweithdai Dydd Sadwrn i’r Teulu ddydd Sadwrn Cyntaf pob mis. Mae’r gweithdai cyfeillgar hyn i deuluoedd â phlant 6-10 oed yn gyfle i greu gyda’n gilydd, arbrofi â syniadau newydd a dysgu am rai o’r celfweithiau gwych sydd gennym yn Oriel Gelf Glynn Vivian.
Ymunwch â’n tîm dysgu wrth iddynt archwilio’r artistiaid a’r gwaith a arddangosir yn yr oriel a’r casgliad trwy weithdy ar-lein hamddenol lle gallwn greu gyda’n gilydd.
Y mis hwn byddwn yn edrych ar waith Anya Paintsil, y caffaelwyd ei gwaith o’r casgliad yn ddiweddar.
Gan ddefnyddio delweddau personol i’w hysbrydoli, mae Anya’n creu rygiau mawr a bwnsiwyd â llaw, sydd yn aml yn hunanbortreadau neu’n portreadu aelodau o’i theulu a’i ffrindiau, ac yn archwilio themâu megis hunaniaeth, Cymreictod a hil.
Yn y gweithdy ar-lein hwn byddwn yn defnyddio deunyddiau sylfaenol i greu portread cyfrwng cymysg, a ysbrydolwyd gan waith Anya.
Bydd angen y rhain arnoch:
- Deunyddiau collage (tudalennau A4 llawn maint os yw’n bosib)
- Cylchgronau
- Hen bapur/mapiau/gohebiaeth nad yw’n cael ei defnyddio
- Paent sail dŵr
- Pensil
- Pinnau
- Pastelau
- Glud PVA neu ffon lud
- Siswrn neu gyllell llawfeddyg
- Drych llaw bach (dewisol)
- Rwber
- Pren mesur
Gweminar ar-lein dros Zoom yw’r gweithdy hwn, lle gallwch sgwrsio â’r tiwtoriaid drwy ddefnyddio’r swyddogaeth sgwrsio, ond ni ellir gweld eich camera chi na chamera cyfranogwyr eraill.
Archebwch eich tocyn yma: https://zoom.us/j/92078794919?pwd=WTl6ZjFIQlc0YXJnSExkbVdHL2txUT09
Rhaid cadw lle: Un tocyn fesul teulu/dyfais ddigidol.
Am ddim i gymryd rhan ynddo ar-lein Does dim angen talu.
Categorïau