Dydd Sadwrn 7 Awst 2021
11:00 am - 1:00 pm
Cadwch eich lle ar ein Gweithdai Dydd Sadwrn i’r Teulu yn ystod gwyliau’r haf, lle byddwn yn canolbwyntio ar y technegau y Carlos Bunga’n eu defnyddio yn ei waith fel y gwelir yn ei arddangosfa newydd, Terra Ferma.
Dewiswch o wahanol weithdy bob wythnos yn ein pabell awyr agored newydd yng ngardd yr oriel.
The Architecture of Life: Gweithdy paentio 3D a ysbrydolwyd gan broses weithio’r artist Carlos Bunga
Dydd Sadwrn 07.08.21
11:00-13:00
Arbrofi gyda lliw a siâp
Gall lliw newid y ffordd rydym yn teimlo, ac mae ganddo hanes cyfoethog – o sut mae lliw yn cael ei greu i’r hyn y gall gwahanol liwiau ei olygu mewn gwahanol rannau o’r byd.
Cadwch eich lle ar gyfer y gweithdy hwn lle byddwn yn defnyddio technegau Carlos Bunga i greu paentiadau haniaethol unigryw, ac arbrofi ar hyd y ffordd.
Yn addas i blant 5 oed ac yn hŷn. Mae’n rhaid i blant llai na 10 oed fod yng nghwmni oedolyn yn ystod y sesiwn.
Gallwch gymryd rhan ar-lein am ddim. Does dim angen talu.
Book now: Saturday Family Workshops – The Architecture of Life
Categorïau