Dydd Sadwrn 13 Chwefror 2021
10:30 am - 11:30 am
Ogofau Crefft Papur 3D
Mae Gweithdai Dydd Sadwrn i’r Teulu’n ôl, yn fyw ac ar-lein, ddydd Sadwrn cyntaf pob mis. Mae’r gweithdai cyfeillgar hyn i deuluoedd â phlant 6-10 oed yn gyfle i greu gyda’n gilydd, arbrofi â syniadau newydd a dysgu am rai o’r celfweithiau gwych sydd gennym yn Oriel Gelf Glynn Vivian.
Ogofau Crefft Papur 3D gyda gwaith celf Kathryn Ashill
Ar gyfer ein Gweithdy Dydd Sadwrn i’r Teulu cyntaf eleni, byddwn yn defnyddio technegau crefft papur, collage a darlunio i greu dioramau ogofau 3D. Wedi’i ysbrydoli gan arddangosfa ddiweddaraf Kathryn Ashill, Fool’s Gold , byddwch yn dysgu sut i dynnu llun, lliwio, torri ac adeiladu’ch byd hudol eich hun.
Bydd angen y rhain arnoch:
- Blwch grawnfwyd neu 3 dalen o gerdyn tenau
- Darnau o bapur lliw neu batrymog (gallai hyn fod yn hen bapur lapio)
- Cardbord wedi’i ailgylchu o hen flwch
- Blwch wyau
- Pensil
- Rwber
- Pin du (tenau neu feiro)
- Creonau neu binnau ffelt lliw
- Siswrn
- Glud
- Tortsh bach neu fath arall o olau
- Camera
- Blanced
Bydd y gweithdy hwn yn cael ei gynnal yn fyw ar Zoom.
Rhaid cadw lle. Archebwch eich tocyn yma.
Un tocyn fesul teulu/dyfais ddigidol
Am ddim i gymryd rhan ynddo ar-lein Does dim angen talu am y gweithdy.
Categorïau