Dydd Sadwrn 27 Mawrth 2021
10:30 am - 1:00 pm
Mae ein Gweithdai Dydd Sadwrn i Oedolion yn dychwelyd ar ddydd Sadwrn olaf bob mis.
Rhowch gynnig ar dechneg celf neu grefft newydd bob mis, wedi’i hysbrydoli gan artistiaid yn ein rhaglen arddangosfeydd gyfredol.
Bodau dynol yn unig ydym ni… Gweithdy Mapio Amlddimensiwn
Wedi ei ysbrydoli gan ddarluniau a phroses yr artist Peter Matthews rydym yn eich gwahodd i arlunio ac adeiladu eich map 3D eich hun – gan fyfyrio ar ein daearyddiaeth ddynol a’n profiad byw cyfredol.
Byddwn yn casglu sbrigiau bach, brigau, cerrig a chregyn o’n cymdogaeth ac yn eu defnyddio fel ysbrydoliaeth i ddylunio mapiau 3D sy’n cysylltu ein lleoliad daearyddol â’n dychymyg creadigol.
Gan ddefnyddio codau creu mapiau syml ac ymagwedd gyfochrog byddwn yn tynnu llun map a’i lenwi â manylion, cyn trawsnewid ein heitemau a gasglwyd yn safleoedd o ddiddordeb penodol. Bydd y prosiect hwn yn cyflwyno’r syniadau a’r technegau y gallwch eu defnyddio i ddatblygu eich mapiau dros gyfnod o amser.
Ar gyfer y prosiect hwn bydd angen i chi gasglu eitemau penodol i ddod â nhw i’r gweithdy.
Bydd angen y rhain arnoch:
- darn mawr o bapur trwchus neu ddarnau bach yn sownd wrth ei gilydd
- pensil
- Pin du tenau
- hen amlenni/llythyrau/ffotograffau/papur diddorol/pethau o lyfr sgrap/gwrthrychau bach
- papur sgrap/cardbord gweadog
- siswrn
- glud PVA
- brwsh paent
- casgliad o gerrig bach/cregyn/cerrig mân/cregyn malwod gwag/arall (dim mwy na mesen)
- tywod/graean
- brigau bach, sych, tenau iawn (dychmygwch goed bach heb fod yn uwch na’ch bys)
- dyfrlliwiau neu ddeunyddiau lliwio eraill
Cynhelir y gweithdy hwn yn fyw ar Zoom.
Archebwch eich tocyn yma: https://zoom.us/meeting/register/tJYvcOihqT8qGdaNPQ6qKqlAvzlyZCC4-ZYw
Rhaid cadw lle. Un tocyn fesul person/dyfais ddigidol
Am ddim i gymryd rhan ynddo ar-lein Does dim angen talu.
Categorïau