Dydd Mercher 21 Ebrill 2021
1:00 pm - 3:00 pm
Nod Gweithdai Dydd Mercher i Oedolion yw gwella mynediad pobl hŷn at y celfyddydau.
Nod y grŵp, sy’n bennaf ar gyfer oedolion dros 55 oed, yw hyrwyddo annibyniaeth, hyder cymdeithasol a sgiliau creadigol trwy amgylchedd cefnogol i hen aelodau ac aelodau newydd. Rydym yn cynnig sgiliau ymarferol, hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddoli a lle diogel i roi cynnig ar bethau newydd. Gan ein bod yn byw dan amgylchiadau gwahanol, mae’r grŵp ar gael mewn 3 gwahanol ffordd:
- Gweithdy a addysgir yn fyw ar-lein
- Gweithdai wedi’u e-bostio ar ffurf PDF gydag adborth
- Drwy’r post, gydag adborth dros y ffôn ar gyfer y rheini heb fynediad at y rhyngrwyd
Rydym hefyd yn cynnig teithiau tywys ar-lein o’n harddangosfeydd cyfredol a Newyddiadur Cymunedol misol i roi’r diweddaraf i chi am bopeth sy’n ymwneud â’r oriel.
E-bostiwch Richard.Monahan@abertawe.gov.uk am ragor o wybodaeth ac i gofrestru.
Bydd y gweithdy hwn yn cael ei gynnal yn fyw ar Zoom.
Am ddim i gymryd rhan ynddo ar-lein Does dim angen talu am y gweithdy.
Categorïau