Dydd Iau 18 Chwefror 2021
11:00 am - 12:30 pm
Dysgu’r oriel yr hanner tymor hwn gyda’r artistiaid Anna Barratt ac Amy Treharne am fore o weithdai celf amlgyfrwng byw, ffilm, sgyrsiau a mwy.
Mae Gweithdai Creadigol i Blant Oriel Gelf Glynn Vivian yn addas i blant 6-16 oed ac maent yn gyfle perffaith i feddwl, gwneud a chreu gydag artistiaid ysbrydoledig, lleol, cyfoes.
Breuddwydio am dirlun
Ym mis Chwefror bydd Anna ac Amy yn archwilio casgliadau’r oriel cyn eich helpu i greu eich tirlun dychmygol eich hun sy’n llawn creaduriaid arallfydol yn y gweithdy paentio/arlunio a chollage arbrofol hwn.
Bydd angen y rhain arnoch:
- Papur
- Deunyddiau collage – papurau lliw/cylchgronau/hen lyfrau/ffotograffau
- Glud
- Siswrn
- Blwch cardbord/cardbord
- Tâp
- Ffyn neu frigau bach pren
- Pinnau
- Pensiliau
- Paent
- Cortyn neu linyn NEU beth bynnag sydd gennych gartref
Bydd y gweithdy hwn yn cael ei gynnal yn fyw ar Zoom.
Join Zoom Meeting: https://zoom.us/j/91585951243?pwd=Wi9yU0RaNnJtdjVsakgvRnlBRi9IZz09
Rhaid cadw lle: Un tocyn fesul teulu/dyfais ddigidol
Am ddim i gymryd rhan ynddo ar-lein. Does dim angen talu am y gweithdy.
Categorïau