Dydd Iau 7 Mawrth 2024
1:30 pm - 3:30 pm
Gan weithio mewn partneriaeth â Sightlife, mae’r grŵp croesawgar creadigol hwn yn defnyddio deunyddiau a thechnegau gwahanol i ymateb i’n rhaglen arddangosfeydd, ac yn cydgynhyrchu’r prosiect gyda’n tîm dysgu.
Mae’r sesiynau’n darparu ffordd berffaith o ymgyfarwyddo ag ymweld ag amgueddfeydd ac orielau i’r rheini â namau gweledol.
E-bostiwch Daniel.McCabe@abertawe.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru’ch diddordeb.
Dydd Iau, 1.30pm – 3.30pm, ddwywaith y mis.
Cynhelir y gweithdai am ddim yn yr Oriel
Elusen yw Sightlife sy’n darparu amrywiaeth o wasanaethau lleol fel y gall pobl ddall neu â golwg rhannol yn ne Cymru fwynhau bywydau annibynnol, gweithredol, cymdeithasol a boddhaus.
Am ragor o wybodaeth am yr elusen a’r ystod eang o weithgareddau sydd ar gael, cysylltwch ag Anita Davies, Rheolwr Datblygu Ardal Leol Sight Life Anita.Davies@sightlife.wales / 01792 776360
Categorïau