Dydd Gwener 13 Medi 2024
5:30 pm - 8:00 pm
Ymunwch â ni am agoriad, Skin Phillips, 360°
Glynn Vivian gyda’r Hwyr, Nos Gwener 13 Medi, 5:30yh – 8:00yh
Bydd hwn yn ddigwyddiad am ddim
Dyddiadau’r arddangosfa, 13 Medi 2024 – 5 Ionawr 2025
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch o gyflwyno arddangosfa o waith yr artist Skin Phillips, ffotograffydd sydd wedi bod yn ganolog i’r byd sglefrfyrddio wrth iddo ddatblygu o fod yn fudiad dan ddaear i ddiwydiant gwerth biliynau o bunnoedd.
Bydd yr arddangosfa gyffrous hon, yn arddangos ffotograffiaeth enwog Phillips, o Abertawe i Los Angeles, sy’n dangos rhai o’r eiliadau mwyaf diffiniol yn hanes sglefrfyrddio.
Mae Skin Phillips, sy’n adnabyddus am ei waith gyda’r cylchgrawn o San Diego, Transworld Skateboarding wedi bod yn ffigur canolog wrth ddogfennu’r byd sglefrfyrddio. Mae ei ffotograffiaeth yn cyfleu adrenalin ac artistiaeth sglefrfyrddio ond mae hefyd yn dangos y newid diwylliannol o isddiwylliant dan ddaear i ffenomen fyd-eang. Bydd yr arddangosfa’n cynnwys detholiad o luniau mwyaf dylanwadol Phillips, yn ogystal â lluniau nas gwelwyd o’r blaen a deunydd archifol sy’n rhychwantu degawdau o ddatblygiad sglefrfyrddio.
Yn ogystal â dangos ei waith cynnar, mae Phillips wedi cael ei gomisiynu i greu cyfres newydd o ffotograffau sy’n arddangos sglefrfyrddio cyfoes yn Abertawe, a fydd yn dod yn rhan o gasgliad parhaol yr Oriel. Mae’r comisiynau newydd yn rhan o “Artistiaid Ydym Oll” a gefnogir gan y Prosiect Angori Diwylliant a Thwristiaeth yng Nghyngor Abertawe ac a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Bydd y gyfres hon yn rhoi sylw i fywiogrwydd ac amrywiaeth y gymuned sglefrfyrddio leol, gan atgyfnerthu arwyddocâd diwylliannol sglefrfyrddio yn Abertawe.
Gweithdai galw heibio am ddim
Does dim angen cadw lle
Croeso i bob oed
Gweithdy parc sglefrfyrddio bach DIY
Dysgwch sut i wneud eich parc sglefrfyrddio cardbord eich hun gan ddefnyddio deunyddiau cartref a thechnegau gwneud modelau a phaentio
Gemau Fideo Sglefrfyrddio ar y Sgrîn Fawr
Rhowch gynnig ar ambell un o’r genhedlaeth nesaf o gemau sglefrfyrddio modern a hynod realistig.
Mynediad am ddim, croeso i bawb
Caffi a bar ar agor – Taliadau â cherdyn yn unig
Categorïau