Dydd Iau 11 Gorffennaf 2024
5:30 pm - 8:00 pm
Dewch i ddathlu agoriad ein harddangosfeydd newydd
Ymunwch â ni am agoriad Out of this World gan yr artist a enwebwyd ar gyfer gwobr Turner yn 2022, Heather Phillipson.
Ynghyd â’r comisiwn newydd hwn, mae’r artist wedi dewis gwaith o Gasgliad yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol (IWM) ac Oriel ac Amgueddfa Castell Cyfarthfa. Bydd hefyd arddangosfa o gasgliad Oriel Gelf Glynn Vivian.
Mae Heather Phillipson: Out of this World yn gomisiwn gan Gronfa Etifeddiaeth 14-18 NOW IWM trwy bartneriaeth ag Oriel Gelf Glynn Vivian.
Areithiau o 6:00 pm
Mynediad am ddim, croeso i bawb
Caffi a bar ar agor – Taliadau â cherdyn yn unig
Rhaid cadw lle. Tocynnau: Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
CADWCH LLE NAWR
https://www.glynnvivian.co.uk/cadwch-lle-nawr-glynn-vivian-gydar-hwyr-heather-phillipson-out-of-this-world/?lang=cy
Os nad ydych yn gallu archebu’ch tocyn ar-lein, ffoniwch yr Oriel ar 01792 516900 a gall aelod o staff drefnu archeb ar eich cyfer. Gallwch hefyd ymweld â’r Oriel er mwyn cadw lle yn bersonol.
Sylwer: Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn rhan o Gyngor Abertawe ac felly mae system archebu’r oriel yn rhan o Swyddfa Docynnau Abertawe. Trwy ddewis eich tocyn isod, eir â chi i wedudalen Swyddfa Docynnau Theatr y Grand Abertawe.
Unwaith y byddwch wedi trefnu’ch ymweliad, byddwch yn derbyn ‘e-bost cadarnhau’ gan CadwLleGrand.Abertawe, gyda’r teitl Cadarnhad o’ch archeb gan Swyddfa Docynnau Abertawe.
NI FYDD ANGEN I CHI ARGRAFFU TOCYN. Bydd eich e-bost cadarnhau yn darparu tystiolaeth o fynediad i’r Oriel.
Categorïau