Dydd Gwener 4 Hydref 2024
5:30 pm - 8:00 pm
Dewch i ddathlu agoriad ein harddangosfeydd newydd
Eavesdropper, Jason&Becky
Skin Phillips, 360°
Mynediad am ddim, croeso i bawb
Caffi a bar ar agor – Taliadau â cherdyn yn unig
Eavesdropper, Jason&Becky
Arddangosfa: Dydd Iau 3 Hydref 2024 – Dydd Sul 6 Hydref 2024
Oriel Gelf Glynn Vivian a Marchnad Abertawe, stondin 54-55
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch iawn o gyflwyno gwaith newydd gan Jason&Becky – Eavesdropper.
Mae Eavesdropper, a grëwyd mewn ymateb i arddangosfa Heather Phillipson, Out of this World, yn ogystal ag ymchwil i Margaret Watts Hughes yn dyfeisio’r ‘eidoffôn’ ym 1887 (dyfais a grëwyd i ddelweddu’r llais dynol), yn archwilio syniadau gwrthdaro a chyfathrebu drwy ryngweithio, sain ac adnoddau gweledol.
Mae Heather Phillipson: Out of this World yn gomisiwn gan Gronfa Etifeddiaeth 14-18 NOW IWM trwy bartneriaeth ag Oriel Gelf Glynn Vivian.
Skin Phillips, 360°
Arddangosfa: tan Dydd Sul 5 Ionawr 2025
Bydd yr arddangosfa gyffrous hon, yn arddangos ffotograffiaeth enwog Phillips, o Abertawe i Los Angeles, sy’n dangos rhai o’r eiliadau mwyaf diffiniol yn hanes sglefrfyrddio.
Yn ogystal â dangos ei waith cynnar, mae Phillips wedi cael ei gomisiynu i greu cyfres newydd o ffotograffau sy’n arddangos sglefrfyrddio cyfoes yn Abertawe, a fydd yn dod yn rhan o gasgliad parhaol yr Oriel. Bydd y gyfres hon yn rhoi sylw i fywiogrwydd ac amrywiaeth y gymuned sglefrfyrddio leol, gan atgyfnerthu arwyddocâd diwylliannol sglefrfyrddio yn Abertawe.
Gweithdai galw heibio am ddim: 5:30yh – 8:00yh
Gweithdy Hologram Sglefrfyrddio
Dewch i gydweithredu i adeiladu parc sglefrfyrddio cardbord i raddfa cyn creu eich animeiddiad holograffig eich hun â’ch bysedd.
Does dim angen cadw lle
Croeso i bob oed
Mae’r comisiynau newydd yn rhan o “Artistiaid Ydym Oll” a gefnogir gan y Prosiect Angori Diwylliant a Thwristiaeth yng Nghyngor Abertawe ac a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Mae ‘Artistiaid Ydym Oll’ yn rhan o Benwythnos Celfyddydau Abertawe a gynhelir ar draws y ddinas rhwng 4 a 6 Hydref 2024.
Categorïau