Dydd Iau 6 Hydref 2022
5:30 pm - 8:30 pm
Dathlwch agoriad ein harddangosfeydd newydd ar gyfer hydref 2022 gyda cherddoriaeth fyw, perfformiaeth a gweithdai.
Agoriadau Arddangosfeydd
The World We Live In, Celf a’r Amgylchedd Trefol
Arddangosfa Deithiol ‘Arts Council Collection’
Dydd Sadwrn 17 Medi 2022 – Dydd Sul 8 Ionawr 2023
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch iawn o gyflwyno The World We Live In, arddangosfa deithiol gan ‘Arts Council Collection‘ sy’n dod â phaentio, cerflunio, ffotograffiaeth a ffilm ynghyd i archwilio themâu sy’n amrywio o ddatblygiad trefol i fudo a’r berthynas rhwng canolau dinasoedd a maestrefi.
Cymdeithas Gelf, Coleg Celf Abertawe: Artistiaid o’r casgliad
Dydd Sadwrn 24 Medi 2022 – Dydd Sul 6 Tachwedd 2022
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian a GS Artists yn falch o gyflwyno prosiect amlochrog sy’n edrych ar sut mae celf yn cyfranogi yng nghanol cymdeithas weithredol iach, gan ddechrau gydag ysgolion celf.
Mae’r prosiect hwn yn perthyn i gyfres o arddangosfeydd ar draws dinas Abertawe i ddathlu 200 mlynedd o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Fe’i cynhelir mewn partneriaeth â GS Artists ac fe’i cefnogir gan Goleg Gelf Abertawe Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol – Eiconau o Gymru
Mohamed Hassan, Megan Winstone, Casgliad yr Oriel Bortreadau Genedlaethol
Dydd Gwener 7 Hydref 2022 – Dydd Sul 29 Ionawr 2023
Bydd yr arddangosfa hon yn dod â deg o bortreadau ffotograffig o’r Oriel Bortreadau Genedlaethol ynghyd, sy’n archwilio hunaniaeth Gymreig, ynghyd â gweithiau gan ddau ffotograffydd o Gymru, Mohamed Hassan a Megan Winstone.
Mae hon yn arddangosfa gydweithredol newydd a drefnwyd gyda’r Oriel Bortreadau Genedlaethol, Llundain, i archwilio hunaniaeth, cynrychiolaeth a pherthnasedd cyfoes portreadau. Mae’r arddangosfa yn rhan o raglen bartneriaeth genedlaethol yr Oriel sef y ‘National Skills Sharing Partnership Programme’ lle bydd gyr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn cydweithio gyda chydweithwyr mewn deuddeng amgueddfa ac oriel ar draws y DU, i greu rhwydwaith ddysgu sy’n cynnwys arddangosfeydd, cyfnewidfeydd, mentora, seminarau ac interniaethau cydweithredol.
Bydd y caffi a’r bar ar agor.
Ni fydd angen archebu tocyn. Galwch heibio i ymuno â ni ar unrhyw adeg. Mae croeso i bawb
Mynediad am ddim, croesewir rhoddion
Categorïau