Dydd Iau 21 Gorffennaf 2022
5:30 pm - 8:30 pm
Dathlwch agoriad ein harddangosfeydd newydd ar gyfer haf 2022 gyda cherddoriaeth fyw, gweithdai a sgyrsiau.
Agoriadau Arddangosfeydd
Sgyrsiau rhwng artistiaid
Shiraz Bayjoo | Brook Andrews
Dydd Gwener 22 Gorffennaf – Dydd Sul 4 Medi 2022
Yn cynnwys fideo, paentiadau, ffotograffiaeth a deunyddiau archif, mae’r arddangosfa hon yn ceisio cau’r bylchau rhwng y brif naratif am wladychiaeth a hanesion cudd.
On Your Face x Glynn Vivian:
Queer Reflections
Dydd Gwener 22 Gorffennaf – Dydd Sul 18 Medi 2022
Dan arweiniad yr artist Fox Irving, mae On Your Face collective wedi dod at ei gilydd i ddefnyddio lle, ymateb i’r gwaith celf sy’n rhan o Gasgliad Parhaol y Glynn Vivian, a myfyrio arno. Trwy gydadweithiau’r grŵp â’i gilydd a’r gwaith celf yng nghasgliad y Glynn Vivian, maent, mewn ffordd chwareus, wedi archwilio a syntheseiddio naratifau newydd am yr hyn mae’n ei olygu i fod yn hoyw/lesbiaidd, cwiar, a/neu niwrowahanol yng Nghymru heddiw.
Ymunwch â’r artist On Your Face, Africa, am berfformiad yn yr oriel yn ystod y noswaith.
Ceir areithiau am 6pm, yna sgyrsiau cyflwyniadol gan yr artistiaid.
Bydd gweithdai i bobl o bob oedran a cherddoriaeth fyw gan Setonji Spirit yn y caffi.
Bydd y caffi a’r bar ar agor.
Ni fydd angen archebu tocyn. Galwch heibio i ymuno â ni ar unrhyw adeg. Mae croeso i bawb
Mynediad am ddim, croesewir rhoddion
Cefnogir yr arddangosfeydd yn hael gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyfeillion Oriel Glynn Vivian..
Categorïau