Dydd Iau 7 Ebrill 2022
5:30 pm - 8:30 pm
Dewch i ddathlu agoriad ein harddangosfeydd newydd gyda cherddoriaeth fyw, gweithdai a sgyrsiau.
Agoriad Arddangosfa
Meddwl yn Wyrdd: Owen Griffiths
Prosiect Deialog y Tir
07.04.22 – 04.09.22
Arddangosfa ac ymgynghoriad i ailddychmygu ardal awyr agored yr oriel fel arena ddinesig werdd newydd, a fydd yn cynnwys gwaith o gasgliad yr Oriel, Amgueddfa Abertawe a gwrthrychau o Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a ddewiswyd gan yr artist.
Celf a Diwydiant: Straeon o Dde Cymru
Curadwyd gan Dr. Zehra Jumabhoy
07.04.22 – 10.07.22
Arddangosfa o baentiadau, ysgythriadau a ffotograffiaeth sy’n archwilio celf a diwydiant yng Nghymru drwy weithiau dethol o gasgliad yr Oriel.
Gwobr Wakelin 2021, Cinzia Mutigli
07.04.22 – 04.09.22
Gosodiad amlgyfrwng gan enillydd Gwobr Wakelin Cinzia Mutigli, sy’n archwilio caethiwed i siwgr a sgyrsiau ôl-drefedigol. Wedi’i phrynu mewn partneriaeth â Chyfeillion y Glynn Vivian, rhoddir y wobr flynyddol i artist o Gymru, y caiff ei waith ei brynu ar gyfer Casgliad Parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian. Y detholwr eleni yw’r artist a’r curadur o Gaerdydd, Anthony Shapland.
Sgwrs Artist
Atriwm, 6.30pm
Ymunwch â’r artist Owen Griffiths am gyflwyniad byr i Meddwl yn Wyrdd, prosiect Land Dialogues. Dilynir hyn gan daith dywys o gwmpas yr arddangosfa Celf a Diwydiant, Straeon o Dde Cymru, gan Guradur yr arddangosfa Dr.Zehra Jumabhoy.
Mynediad am ddim, croeso i bawb. Does dim angen cadw lle.
Galwch heibio ein gweithdai creadigol. Yn addas i bob oedran.
I gyfeiliant cerddoriaeth fyw yn ein Hatriwm
Cerddoriaeth Fyw
Delyth Jenkins
18:00 – 18:30
Mae Delyth Jenkins yn unawdydd telyn, ac fel aelod o nifer o grwpiau, mae Delyth wedi teithio ledled y DU, mewn nifer o wledydd Ewropeaidd ac yn America.
Setondji spirit
19:00 – 19:30
Mae Setondji spirit yn ganwr-gyfansoddwr sy’n perfformio Cerddoriaeth y Byd. Cyfuniad wedi’i ysbrydoli gan R&B, cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth werin.
Gweithdai
Gweithdy pêl hadau blodau gwyllt
17:30 – 20:00
Ystafell 2 / Yr ardd (os yw’r tywydd yn caniatáu)
Wrth i ni ddechrau ar archwiliad Owen Griffiths o sut y gallwn ddefnyddio’n gardd, rydym wedi dod o hyd i ddigon o hadau blodau gwyllt i greu erw gyfan o ardd blodau gwyllt ar gyfer yr holl wenyn a thrychfilod sychedig sy’n ymweld â ni’r haf hwn. Galwch heibio i greu eich peli hadau eich hun i ddod â rhywfaint o liw sy’n gyfeillgar i wenyn i’r ddinas.
Celf a Diwydiant – FFLACH NEWYDDION!
18:00 – 20:00
Ystafell 1
Mae cyswllt annatod rhwng gwneud printiau a diwydiant, felly ar ôl i chi archwilio’n harddangosfa newydd o gelfweithiau sy’n ymwneud â ‘Diwydiant yn Ne Cymru’, beth am alw heibio ar gyfer y gweithdy gwneud printiau arbrofol hwn sy’n defnyddio amrywiaeth o dechnegau traddodiadol a chyfoes? Yn addas i bob oed.
Mae’r caffi a’r bar ar agor
Mynediad am ddim, croeso i bawb
DOES DIM ANGEN CADW LLE
Categorïau