Dydd Gwener 24 Tachwedd 2023 - Dydd Sul 10 Mawrth 2024
10:00 am - 4:30 pm
Kathryn Ashill, Angela Davies, Kirsti Davies, Dylan Huw, Durre Shahwar, Rhys Slade-Jones, Fern Thomas, Heledd Wyn
Mae’r Glynn Vivian yn gyffrous i gyflwyno gludafael/holdfast, arddangosfa grŵp lle bydd wyth artist ar y cyd yn amlinellu gallu celf i ymateb i’r argyfwng hinsawdd.
Glynn Vivian gyda’r Hwyr, nos Iau 23 Tachwedd 2023, 5.30pm – 8.00pm
Drwy gyfuno ymchwil a gwaith newydd gan yr artistiaid Kathryn Ashill, Angela Davies, Kirsti Davies, Dylan Huw, Durre Shahwar, Rhys Slade-Jones, Fern Thomas a Heledd Wyn, mae’r arddangosfa’n sôn am brofiadiau unigolion a chymunedau, ac anghydraddoldeb a hurtrwydd y systemau sy’n ein trefnu ni a’r byd.
Mae Kathryn Ashill yn ymateb i alwad y ‘dyn hel rhacs’, yr ydym yn ei glywed heddiw drwy uwch-seinydd yn gofyn am ‘unrhyw hen haearn’ ac a alwai yn y canol oesoedd am garpiau ac esgyrn. Mae hanes y fasnach yn rhagflaenydd i ailgylchu heddiw ac mae Kath yn ymateb i’w galwad am ein gwastraff gyda’i chwestiynau ei hun – am ddosbarth, bai a llais pwy sy’n cael ei glywed yn y corws o bobl sy’n gweithio ar gyfer cyfiawnder hinsawdd – gyda chân gwerin newydd.
Mae Angela Davies yn gwneud defnydd o gynlluniau am forlyn llanw 19 milltir yng Ngogledd Cymru yn y dyfodol i ystyried hanes pyllau lido ledled Cymru a sut, gan yr adeiladwyd llawer ohonynt gan gronfa les y glowyr, maent yn dal hanes sydd wedi’i gydblethu â chloddio a chynhyrchu ynni. Yn Aequus, mae golygfeydd o’r awyr o ddawnswyr yn perfformio mewn pwll lido gwag yng Nghraig y Don, Llandudno, yn cael eu hatseinio gan ddawnswyr yn perfformio ym Môr Iwerddon. Cynhyrchwyd y fideo o ganlyniad i awydd i archwilio’r dryswch cymhleth sy’n cydfodoli wrth i ni ddod o hyd i ffyrdd o gydamseru ein symudiadau tuag at ail-ddychmygu’r dyfodol y tu hwnt i’n gorwel ni.
Mae Kirsti Davies wedi’i hysgogi gan y cwestiwn canlynol: Sut ydyn ni’n dod o hyd i’r iaith i adennill naratif yr argyfwng hinsawdd, pan nad yw sefydliadau amgylcheddol yn gweithio? Yr edefyn gobaith y mae hi’n ei ddilyn yw gwymon. Gan ehangu ar ddeialogau cymunedol eang ym Machynlleth, lle bu’r artist Kirsti yn gweithio gyda phreswylwyr a busnesau lleol i ddefnyddio gwymon yn ddyddiol unwaith eto, mae’r arddangosfa’n cyflwyno’i hadnodd sy’n datblygu, Gwymona, gan wahodd ymwelwyr i archwilio’r posibiliadau niferus y mae gwymon yn eu cynnig i ni.
Gan ddefnyddio ymchwil tymor hir, mae Dylan Huw yn datblygu gwaith llenyddol newydd ar ffurf pâr o weithiau sain llafar, a gynhyrchwyd gyda’r artist Freya Dooley. Gan fyfyrio ynghylch ffyrdd o draethu natur llethol bywyd a gwaith mewn oes a gyflyrir gan ddymchweliad ecolegol, mae’r ddau ddarn yn cynrychioli meddwl tu blaen sy’n aflonydd, yn rhyfedd, yn rhwydweithiedig, yn flinedig, wedi’i droi drosodd a’i ailgylchredeg. Mae wedi ymddangos o freuddwydion twymyn a’r llun cynharaf sydd wedi goroesi o goelcerth (a dynnwyd ger Abertawe ym 1853), i sgrolio drwy’r ddelweddau o dân a dinistr mewn diwylliant gweledol pob dydd.
Mae Durre Shahwar yn defnyddio gwrthrych teuluol sef pot dŵr i ystyried profiad dadleoledig yr argyfwng hinsawdd i gymunedau ym Mhacistan. Mae’r llestr clai hwn wedi cael ei ddefnyddio ar hyd y cenedlaethau, fel y mae heddiw, gan fenywod sy’n cerdded drwy lifogydd a achoswyd gan ddaeargrynfeydd i gario dŵr ffres sy’n cynnal bywyd. Mae Durre yn ehangu ar aflonyddwch y dŵr hwn drwy ofyn i ni feddwl am y rhythmau newidiol hyn a’r hyn rydyn ni’n ei gasglu wrth i’r byd newid.
Caiff Neuadd Henoed Treherbert ei dwyn i’r oriel ar ffurf fechan gan Rhys Slade-Jones, wedi’i phwytho ynghyd o lenni melfed llwyfan y neuadd. Ar gyfer graddfa tebyg i babell, mae Rhys yn gwneud defnydd o ddimensiynau sy’n perthyn i’w mam ac iddyn nhw eu hunain, gan godi cwestiynau am yr hyn rydym yn ei etifeddu a’r hyn rydym yn ei adael ar ôl, ar raddfa blanedol amlgenhedlaeth. Wrth greu’r model hwn o le cymunedol sy’n unigryw o arbennig, mae’r artist yn gofyn pa adeileddau y mae arnom eu hangen ar gyfer y dyfodol, a pha fath o henaint yr hoffem ei gael pan gyrhaeddwn yno.
Gan weithio gyda delwedd Y Dyfrwr fel arwydd cytser ac astrolegol, mae Fern Thomas yn ystyried yr angen am ddelweddau arweiniol newydd wrth i ni dystiolaethu i gwymp yr hinsawdd. Yn llawn mythau am lifogydd mawr, ond hefyd yn symbol o ddechreuadau newydd, cymuned a gweithredoedd llawr gwlad, mae Fern yn cynnig y cytser hynafol hwn fel offeryn er mwyn ail-greu’r amserau mytholegol hyn. Fel y mae’r athro Swffi, Emmanuel Vaughan Lee, yn ei awgrymu, ‘mae’r newidiadau sy’n dod i’r amlwg mor anferthol – maen nhw’n fythaidd […] Ni allwn eu deall oni bai ein bod yn defnyddio iaith fythau.”
Mae gosodiad Heledd Wyn yn deillio o’i hymchwil i hanes cynhyrchu cywarch yng Nghymru a’r ffyrdd y mae cywarch, fel cnwd amlbwrpas a ddefnyddir i wneud bioddeunyddiau a all fod yn fioddiraddadwy ac y gellir eu compostio yn eu tro, yn rhan o system gylchol pridd i bridd. Mae’r gosodiad yn cynnwys planed, a elwir yn NON, ac mae Heledd yn dweud taw’r un peth y gall pob un ohonom ei wneud, ymysg yr holl bryder a gofid am yr argyfwng hinsawdd, yw arafu, prynu llai a gwneud llai. Sut y mae pŵer mewn peidio â gweithredu er mwyn dod o hyd i gydbwysedd.
Mae’r arddangosfa hon wedi’i chomisiynu gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda chefnogaeth y Glynn Vivian a Chyngor Celfyddydau Cymru, a’i datblygu gyda’r curadur Louise Hobson. Daethpwyd â’r artistiaid yn gludafael / holdfast ynghyd am y tro cyntaf drwy Gymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol 2022.
Bydd cyfres o raglenni cyhoeddus a arweinir gan yr artistiaid ochr yn ochr â’r arddangosfa, gan gynnwys sgyrsiau, digwyddiadau, perfformiad a gweithdai, a gynhelir o fis Ionawr i fis Mawrth 2024. Ewch i www.glynnvivian.co.uk am ragor o wybodaeth am y rhaglen.
GWYBODAETH AM YR ARTISTIAID
Mae gan Kathryn Ashill, o Ynys y Barri, arfer amlddisgyblaethol sy’n cynnwys actio amatur, byrddau theatr, diwylliant Brenin Drag, fideo a pherfformiad. Mae Kathryn wedi arddangos ei gwaith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac yn ddiweddar roedd yn Gymrawd Cymru’r Dyfodol. Cwblhaodd Kathryn PhD yng Nghanolfan Hanes Gwyddoniaeth, Technoleg a Meddyginiaeth Prifysgol Manceinion, a oedd yn archwilio i botensial cydweithio rhwng rhywogaethau mewn creu celfweithiau, drwy berfformio a bio therapi. Ariannwyd y gwaith ymchwil hwn gan Ymddiriedolaeth Wellcome.
Mae gwaith Angela Davies wedi’i arddangos yn rhyngwladol mewn arddangosfeydd unigol a grŵp, gan gynnwys IKT a Mostyn, Sefydliad Fosun, Sianghai, S12 Galleri Bergen, Norwy, Labordy V2 i’r Cyfryngau Ansefydlog, yr Iseldiroedd a Pontio, Bangor. Mae gwobrau diweddar yn cynnwys Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol Cyngor Celfyddydau Cymru (2022), Bwrsari a-n Time Space Money (2020) a Gwobr Cymru Greadigol (2018). Mae Davies hefyd yn gyd-sylfaenydd StudioMADE, oriel dan arweiniad artistiaid a stiwdio amlddisgyblaethol yn Ninbych, Cymru.
Mae Kirsti Davies yn artist sydd ag obsesiwn â gwymon. Mae hi’n bendant mai gwymon yw’r ateb i’n holl broblemau, felly ei nod yw lledaenu’r gair i gynifer o bobl â phosib. Mae Kirsti yn ceisio ein cysylltu â’r byd tanddwr dirgel, llawn gwymon, drwy weithdai, gosodiadau rhyngweithiol, adnoddau ar-lein a digwyddiadau y gellir mynd iddynt yn bersonol. Ganwyd a magwyd Kirsti ym Machynlleth, canolbarth Cymru, a dychwelodd yno’n ddiweddar i fagu ei theulu ifanc.
Mae Dylan Huw yn awdur, yn feirniad ac yn gynullydd ar gyfer rhaglenni artistig. Mae’n ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiadau fel Artforum, Frieze ac O’r Pedwar Gwynt, ac mae’n cydweithio’n rheolaidd â Peak Cymru. Ar hyn o bryd mae’n datblygu prosiect curadurol ar greu geirfa cwiar o fewn ac ar draws diwylliannau ieithoedd lleiafrifol, gyda chefnogaeth Cronfa Gwaith Newydd Jerwood Arts a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru. Mae ganddo radd MA mewn Theori Celf Gyfoes o Goldsmiths, Prifysgol Llundain, ac mae’n byw yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.
Mae Durre Shahwar yn awdur, yn artist, ac yn ymgeisydd PhD mewn Ysgrifennu Creadigol a ariennir gan y Cyngor Ymchwil i’r Celfyddydau a’r Dyniaethau, sy’n ymchwilio i awtoffuglen a hunaniaeth ddiwylliannol ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae hi hefyd yn dysgu. Durre yw golygydd Gathering: Women of Colour on Nature (2024, 404 Ink).Mae hi’n Gymrawd Cymru’r Dyfodol, gan ganolbwyntio ar gyfiawnder hinsawdd a’r celfyddydau. Mae gwaith Durre wedi’i gyhoeddi’n eang, ac mae’n Awdur Preswyl ar gyfer cylchgrawn rhyngwladol Wasafiri. Cyrhaeddodd y rhestr fer a chafodd gymeradwyaeth uchel ar gyfer Gwobr Llenyddiaeth Morley 2022.
Mae Rhys-Slade Jones yn artist ac yn berfformiwr sy’n ymddiddori mewn gwaith llawn hwyl, gwiriondeb a theimladau. Drwy bontio’r byd perfformio, cabaret a chrefft mae’n creu gwaith gyda chymunedau dosbarth gweithiol ac ar eu cyfer, gan ganolbwyntio ar lawenydd a dial. Fel aelod sefydlol y cwmni perfformio cwiar, Cŵm Rag, gellir dod o hyd i Rhys yn aml yn gwisgo wig ar ben mynydd. Ar hyn o bryd mae Rhys yn creu gwaith gyda’r Theatr Genedlaethol, Theatr Genedlaethol Cymru, y BBC ac S4C.
Mae Fern Thomas yn artist ac yn awdur sy’n archwilio’r groesffordd rhwng hanes sy’n seiliedig ar le a hanes llên gwerin, arferion hudol traddodiadol ac ecoleg ysbrydol. Mae gan Fern radd MA mewn Cerflunwaith Cymdeithasol, maes ymarfer trawsddisgyblaethol sy’n canolbwyntio ar lunio cymdeithas ddyngarol sy’n ymarferol o safbwynt ecolegol. Yn 2022, cynhaliodd Fern ei sioe unigol, Spirit Mirror, yn Oriel Gelf Glynn Vivian, a chafodd ei henwebu’n ddiweddar i dderbyn Gwobr Artist Sefydliad Henry Moore. Ar hyn o bryd mae Fern yn cwblhau PhD mewn Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol Cyngor Ymchwil i’r Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol De Cymru ac Amgueddfa Cymru.
Mae Heledd Wyn yn artist, yn wneuthurwr ffilmiau, yn ffotograffydd ac yn gyfarwyddwr.Mae gan Heledd radd mewn drama a hyfforddiant o’r Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol a’r BBC. Cyflwynwyd ei gwaith ‘NON’, a grëwyd drwy Gymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol, yn y Senedd, yr Eisteddfod Genedlaethol, Pontio, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, Oriel Mostyn ac yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd.
GWYBODAETH AM Y CURADUR, LOUISE HOBSON
Mae Louise yn guradur ac yn gynhyrchydd annibynnol a hefyd yn gyd-gyfarwyddwr Peak Cymru. Mae Louise wedi curadu arddangosfeydd a rhaglenni cyhoeddus gyda Chapter (2022), Grand Union (2019), Oriel Davies (2017/18), Caerdydd Cyfoes (2016), ac Oriel Mission (2015). Mae hi hefyd wedi dal swyddi curadol gydag Art Night (2020/21) ac ar gyfer Cymru yn Fenis (2019). Ochr yn ochr â’i rôl yn Peak, mae Louise ar hyn o bryd yn datblygu SWAY, gan archwilio potensial meddwl rhynglanwol gydag artistiaid, curaduron, ymchwilwyr, awduron a phreswylwyr yn y Barri.
GWYBODAETH AM CYFOETH NATURIOL CYMRU A CHYMRODORIAETH CYMRU’R DYFODOL
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn falch o fod yn arwain y ffordd yn yr her o sicrhau y gall Cymru oroesi a ffynnu yn erbyn cefndir yr argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd. Fel corff a noddir gan Lywodraeth Cymru, maent yn cynghori ac yn rheoleiddio diwydiant ac yn gweithio gyda phartneriaid i wella ansawdd ein dyfroedd, ein haer a’n tir. Ym mis Medi 2020, llofnododd Cyfoeth Naturiol Cymru Femorandwm o Ddealltwriaeth gyda Chyngor Celfyddydau Cymru er mwyn amlinellu gweledigaeth a rennir ar gyfer gweithio mewn partneriaeth yn y dyfodol. Mewn ymateb i hyn, lluniodd y ddau sefydliad y Rhaglen Natur Greadigol, a oedd yn cynnwys y Gymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol gyntaf. Roedd cyflwyno’r gymrodoriaeth yn gyfle trawsnewidiol i 8 artist greu gwaith newydd sy’n tarfu ar y ffordd o feddwl gyfredol am systemau bwyd, ynni a thrafnidiaeth, gan gynnwys pobl â’r angen i newid ffordd o fyw er mwyn lleihau allyriadau. Datblygwyd a chyflwynwyd y rhaglen mewn partneriaeth â Chanolfan y Dechnoleg Amgen.
Categorïau