Dydd Sadwrn 15 Mehefin 2019 - Dydd Sul 24 Tachwedd 2019
10:00 am - 5:00 pm
Mae’r arddangosfa hon yn canolbwyntio ar waith Frances Richards, gwraig y paentiwr Ceri Richards, y cyfarfu ag ef yn y Coleg Celf Brenhinol yn Llundain.
Mae gan waith Frances Richards gymeriad gweledol a gweledigaeth sy’n ei osod ar wahân i gelf ei chyfnod gyda’i elfennau haniaethol a ffigurol. Mae natur soffistigedig ei chelf deimladwy ac anacademaidd, a’i chysylltiadau modern amlwg yn galw i gof rai themâu hynod bersonol rheolaidd.
Bydd yr arddangosfa’n canolbwyntio ar y gludweithiau brodwaith, y darluniau a’r monoteipiau a grëwyd yn ystod blynyddoedd y rhyfel ac sydd heb gael eu gweld tan nawr, gan adlewyrchu safbwynt artist benywaidd hynod dalentog ac awyrgylch tywyll y cyfnod tyngedfennol hwnnw.
Mae’r arddangosfa hefyd yn cyflwyno rhai o baentiadau prydferth a chain ei blynyddoedd hŷn, sy’n drosiadol neu’n dangos blodau.
Oriel Gelf Glynn Vivian
Alexandra Road, Swansea, SA1 5DZ
map
Categorïau