Dydd Sadwrn 8 Ionawr 2022 - Dydd Sul 20 Mawrth 2022
10:30 am - 4:00 pm
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch o gyhoeddi comisiwn newydd gan yr artist o Abertawe, Fern Thomas (g.1983, Castell-nedd), y mae ei gwaith yn archwilio creu chwedlau, straeon gwerin a thirweddau mewnol dychmygol.
Trefnwyd i’r gwaith hwn gyd-fynd ag arddangosfa deithiol Hayward, Not Without My Ghosts – The Artist As Medium, sy’n cael ei harddangos ar hyn o bryd yn yr oriel ac sy’n archwilio’r newidiadau rhwng dylanwad y celfyddydau a chyfryngwyr.
Ar gyfer y gosodiad newydd hwn, mae Thomas yn creu cyfres o ymyriadau gan ddefnyddio testun, ffurfiau cerfluniol a wnaed o gŵyr gwenyn a gwrthrychau archifol a fydd yn cael eu gosod ochr yn ochr â gwaith a ddewiswyd gan yr artist o Gasgliad Parhaol yr Oriel.
Yn ganolog i’r arddangosfa hon mae diddordeb mawr Thomas yn yr etholfreintiwr, y gwleidyddwr, y dyngarwr a’r ysbrydegwr lleol, Winifred Coombe Tennant (1874 – 1956), yr oedd ei chartref yng Nghastell-nedd yn agos at y man lle cafodd yr artist ei magu. Roedd Winifred Coombe Tennant yn noddwr y celfyddydau a oedd wedi cynghori’r Glynn Vivian ynghylch prynu sawl un o weithiau mwyaf adnabyddus yr Oriel, gan gynnwys paentiadau gan Gwen John, John Elwyn, Kyffin Williams ac Evan Walters. Yn ogystal â hyn, bu’r nodedig Coombe Tennant yn gweithio fel cyfryngwr ac ysbrydegydd dan yr enw, ‘Mrs Willett’. Roedd hi’n ymarfer ysgrifennu awtomatig, a chafodd y sgriptiau yr oedd hi’n eu derbyn gan ysbrydion arweiniol eu hanfon i’w dadansoddi gan aelodau blaenllaw o’r Gymdeithas dros Ymchwil Seicig, fel Syr Oliver Lodge a Gerald Balfour. Darganfu Coombe Tennant y maes hwn ar ôl i’w hunig ferch, Daphne, farw’n 17 mis oed – parhaodd Tennant i gyfathrebu â hi ar ôl iddi farw.
Mae’r arddangosfa’n ymateb i themâu fel bod yn fam, ysbrydegaeth a chysylltiad â bydoedd eraill, yn ogystal â chyd-destun cyfrinachol ehangach Not Without My Ghosts. Mae Thomas yn defnyddio’i phroses ymchwil-fel-celf i wau llawer o wrthrychau archifol ynghyd, fel samplau o wlân a oedd yn eiddo i Coombe Tennant, ac a ddefnyddiwyd ganddi ar gyfer ei gwisg Genedlaethol; ymchwil sy’n seiliedig ar leoedd a oedd yn gysylltiedig â bywyd Coombe Tennant; manylion adenydd angylion a ddarluniwyd o brintiau Blake; cysylltiadau’r sêr a chrwydradau mytholegol. Yn ogystal mae ysbrydion arweiniol sy’n debyg i anifeiliaid yn sefyll ar ben tyrrau uchel, a hefyd ‘drych ysbrydion’ a grëwyd o gŵyr gwenyn pur, deunydd arwyddocaol i Thomas gan y gellir ei drawsnewid drwy gynhesrwydd y corff. Mae cŵyr gwenyn hefyd yn symboleiddio’r gwenyn y gellir eu cysylltu â straeon gwerin fel negeseuwyr sy’n medru symud rhwng y bydoedd ysbrydol. Yn yr ystyr hwn, mae Thomas yn archwilio’r hyn y mae’n cyfeirio atynt fel ‘pwyntiau egni’ neu ddirgryniadau’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol; trothwyau a chochlau sy’n gallu’n harwain i fydoedd gwahanol.
Mae gweithiau o Gasgliad y Glynn Vivian yn cynnwys portread o Winifred Coombe Tennant a’i meibion, Alexander a Henry, gan yr artist o Abertawe, Evan Walters (1892 – 1951), yn ogystal â gwaith nas gwelwyd o’r blaen gan William Blake (1757-1827), yr oedd Coombe Tennant yn ei edmygu’n fawr. Hefyd arddangosir ysgythriadau o gestyll dirgel a thirweddau ysbrydol gan yr awdur enwog o Ffrainc,Victor Hugo (1802-1885). Prynwyd y gweithiau hyn gan sylfaenydd yr Oriel, Richard Glynn Vivian, ym 1885.
O’r holl wrthrychau hyn a’r gweithiau yn y Casgliad, mae Thomas yn creu set llwyfan neu set o offer sy’n barod i’w defnyddio gyda symudiad neu berfformiad. I gyd-fynd â’r arddangosfa hon, cynhelir cyfres o ymyriadau a pherfformiadau gan artistiaid. Rhagor o wybodaeth i ddilyn. Gallwch weld y rhaglen lawn ar ein gwefan.
Traethawd gan yr anthropolegwr a’r awdur llên gwerin, Amy Hale, mewn ymateb i arddangosfa Fern Thomas, Spirit Mirror.
Gwrandewch ar yr artist Joan Jones a’r cerddor Rhodri Jones wrth iddynt berfformio ymateb i arddangosfa Fern Thomas, Spirit Mirror.
Fern Thomas
Mae arfer Fern Thomas, a anwyd yn ne Cymru ym 1983, yn canolbwyntio ar brosesau ac egwyddorion Cerflunwaith Cymdeithasol. Yn ddiweddar mae Thomas wedi datblygu set ffuglennol o ynysoedd, Springtides Archipelago, sef man ymchwil poly-gronig lle gall fwynhau ei holl waith. Mae prosiectau a chomisiynau diweddar yn cynnwys The Hidden Noise: Tinnitus and Art yn oriel OVADA, Rhydychen, Cymrodoriaeth g39 gydag oriel g39, Caerdydd fel rhan o Raglen Celfyddydau Sylfaen Freemans, ac a fu’n rhan o CoDI, sef Rhaglen Sain Arbrofol Tŷ Cerdd yng Nghaerdydd . Ar hyn o bryd mae’n artist preswyl ar gyfer Cysylltiadau Hynafol, sef prosiect celfyddydau a threftadaeth a gynhelir yn Sir Benfro.
Categorïau