Dydd Mawrth 23 Mai 2017 - Dydd Llun 28 Awst 2017
10:00 am - 5:00 pm
Gyda gwaith gan:
Fikret Atay | Becky Beasley | Simon Bedwell | Claire Makhlouf Carter | Edward Onslow Ford | Loie Fuller a’r Brodyr Lumiére | Henry Fuseli | Richard Hamilton | Gustav Metzger | Katrina Palmer | Gavin Turk | Giulio Paolini Bridget Riley | Jo Spence | Carolee Schneeman | Francesca Woodman
Yr arddangosfa hon gan Elizabeth Price, enillydd Gwobr Turner yn 2012, yw’r ddiweddaraf mewn cyfres o arddangosfeydd gan Hayward Touring, wedi’i churadu gan artist ac yn rhoi lle arddangos i dros 40 o artistiaid.
Cyflwynir ‘IN A DREAM YOU SAW A WAY TO SURVIVE AND YOU WERE FULL OF JOY’ ar ffurf ‘melodrama diaddurn’ sy’n archwilio pŵer seicolegol a ffurfiol y llorweddol drwy ddetholiad helaeth o ddelweddau o’r corff dynol ar ei orwedd, mewn amrywiaeth o gyflyrau o flinder, syrthni, synfyfyrdod, galar, marwolaeth a pherlewyg erotig neu lesgedd. Dyluniwyd yr arddangosfa i greu profiad y gall ymwelwyr ymgolli ynddo drwy weithiau sy’n gysylltiedig drwy ‘resymeg lithrig a diflannol byd breuddwydion’. Mae’r arddangosfa’n cynnwys cerfluniau, dyluniadau, ffotograffau, ffilm a fideos wedi’u trefnu mewn pedair rhan sydd wedi’u cysylltu’n fras: Cysgu, Gweithio, Galaru a Dawnsio.
Oriel Gelf Glynn Vivian
Alexandra Road, Swansea, SA1 5DZ
map
Categorïau