Dydd Sadwrn 1 Hydref 2022
11:00 am - 1:00 pm
Gyda’r artist Joshua Jones o ‘On Your Face Collective‘.
Dydd Sadwrn 01.10.22,11:00-13:00
16+ oed
Ystafelloedd 1, 8 a 9
Ekphrasis yw’r arfer o ysgrifennu mewn ymateb i gelf.
Yn y gweithdy hwn, bydd Joshua Jones yn arwain ysgrifenwyr o bob gallu drwy’r gweithgareddau ar ysgrifennu Ekphrasis, gan gynnwys ymateb i gelfweithiau yn yr arddangosfa Queer Reflections, On Your Face gyda’r Glynn Vivian.
Ysgrifennwr ac artist cwiar, niwrowahanol o Lanelli yw Joshua Jones. Mae ganddo radd BA mewn ysgrifennu creadigol o Brifysgol Bath Spa. Bydd ei gasgliad cyntaf o straeon byr yn cael ei gyhoeddi gan Parthian yn ystod hydref 2023, ac mae ei lyfryn barddoniaeth ar ddod cyn bo hir gyda Broken Sleep Books. Mae’n byw yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.
Ar agor i bobl o bob sgil, croeso i ddechreuwyr.
Am ddim, croesewir rhoddion o £3.
Lleoedd yn brin. Rhaid cadw lle. Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
CADWCH LLE NAWR
Categorïau