Dydd Iau 3 Hydref 2024 - Dydd Sul 6 Hydref 2024
10:00 am - 4:30 pm
Glynn Vivian Gyda’r Hwyr, nos Wener 4 Hydref, 5.30pm – 8.00pm
Oriel Gelf Glynn Vivian a Marchnad Abertawe, stondin 54-55
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch iawn o gyflwyno gwaith newydd gan Jason&Becky – Eavesdropper.
Mae Eavesdropper, a grëwyd mewn ymateb i arddangosfa Heather Phillipson, Out of this World, yn ogystal ag ymchwil i Margaret Watts Hughes yn dyfeisio’r ‘eidoffôn’ ym 1887 (dyfais a grëwyd i ddelweddu’r llais dynol), yn archwilio syniadau gwrthdaro a chyfathrebu drwy ryngweithio, sain ac adnoddau gweledol.
Mae Heather Phillipson: Out of this World yn gomisiwn gan Gronfa Etifeddiaeth 14-18 NOW IWM trwy bartneriaeth ag Oriel Gelf Glynn Vivian.
Mae’r gosodiad hwn, a fydd yn cael ei osod ar ddau safle, yn gwahodd gwylwyr i ymgymryd â rôl weithredol wrth gyflawni’r gwaith, ac i ystyried sut mae eu presenoldeb yn effeithio ar eu profiad eu hunain yn ogystal â phrofiad pobl eraill.
Artistiaid cydweithredol o Abertawe yn Ne Cymru yw Jason&Becky. Mae eu harfer yn ymateb i amodau gwleidyddol-gymdeithasol presennol drwy ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau a fformatau arbrofol fel y gall cyfranogwyr ymgolli mewn mannau amwys y gellir eu dehongli’n unigol. Maent yn ceisio darganfod ffyrdd newydd o ymgysylltu â’r cyhoedd mewn ffordd greadigol yn gyson, ac mae ganddynt ddiddordeb penodol mewn gweithio o fewn y gwagle ymddangosiadol rhwng diwylliant ‘uchel’ a diwylliant ‘poblogaidd’.
Mae’r comisiynau newydd yn rhan o “Artistiaid Ydym Oll” a gefnogir gan y Prosiect Angori Diwylliant a Thwristiaeth yng Nghyngor Abertawe ac a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Mae ‘Artistiaid Ydym Oll’ yn rhan o Benwythnos Celfyddydau Abertawe a gynhelir ar draws y ddinas rhwng 4 a 6 Hydref 2024.
Categorïau