Dydd Sadwrn 22 Medi 2018 - Dydd Sul 1 Medi 2019
10:00 am - 5:00 pm
Ystafell 7
Daw’r arddangosfa hon â gwaith o gasgliadau Oriel Gelf Glynn Vivian a Chanolfan Dylan Thomas ynghyd er mwyn amlygu’r perthnasoedd a’r deialogau a geir rhwng barddoniaeth a chelf. Drwy gydol ei fywyd, chwiliodd Dylan am gyfleoedd i weithio gydag eraill. Ffynnodd yng nghymunedau artistig y 1930au yn Abertawe, lle’r oedd yfwyr coffi Caffi’r Kardomah – beirdd, arlunwyr a cherddorion ar ddechrau eu gyrfaoedd – yn cynnwys Vernon Watkins, Alfred Janes a Dan Jones.
Oriel Gelf Glynn Vivian
Alexandra Road, Swansea, SA1 5DZ
map
Categorïau