Dydd Sadwrn 25 Mai 2024
10:00 am - 3:30 pm
Dewch i ddarganfod sgiliau a thechnegau newydd yn ein sesiynau dosbarth meistr gydag artistiaid a gweithwyr creadigol gwadd.
Oed 16+
Trowsus wedi’u rhwygo? Dillad gwau wedi’u bwyta gan wyfynod? Penelinoedd wedi treulio?
Ymunwch â’r artist tecstilau, Menna Buss, i ddysgu am drwsio gweledol, ffordd greadigol o drwsio rhwygiadau dillad.
Bydd Menna yn arddangos amrywiaeth o atebion trwsio, yn rhannu enghreifftiau ac yn dangos yr offer a’r deunyddiau sydd eu hangen.
Byddwch yn cael y cyfle i greu eich samplau eich hun o glytiau ‘Boro’ Japaneaidd, sy’n ddelfrydol ar gyfer denim, yn ogystal â gwnïo traddodiadol gydag edafedd lliwgar ar gyfer dillad gwau.
Ar ôl cinio, bydd Menna yn eich arwain drwy’r gwaith o ddylunio a chwblhau eich gwaith trwsio gweladwy eich hun – dewch ag un neu ddwy eitem o ddillad y mae angen eu trwsio.
Efallai y byddwch hefyd am ddod â’ch cit gwnïo, eich edafedd a’ch llinynnau eich hun ond nid yw hyn yn hanfodol.
Rhaid cadw lle. Tocynnau £40. Mae lleoedd yn brin. Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i’n cymuned ffoaduriaid ac unigolion sy’n ceisio lloches neu’r rheini â Phasbort i Hamdden. Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion.
CADWCH LLE NAWR
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Menna Buss
Artist-hwylusydd tecstilau yw Menna, a chanddi 15 mlynedd o brofiad (BA Dylunio Gwisgoedd, TAR)
Mae Menna, sydd wedi gweithio ar gyfer adrannau wardrob y West End yn Llundain ac fel gwneuthurwr gwisgoedd ar gyfer ENO, BBC a British Shakespeare Company, wedi ymdrin â nifer o addasiadau a thrwsiadau.
Ers iddi ddychwelyd i Abertawe yn 2015, mae Menna wedi croesawu ton newydd o gefnogaeth mewn arferion tecstilau. Mae wedi bod yn addysgu gwnïo sylfaenol i annog pobl i oedi gorfod anfon eu dillad i safle tirlenwi. Datblygodd ei doniau trwsio gweladwy, gwnïo, gwehyddu a brodwaith pan roedd yn byw yn Ne India a Chanolbarth America. Mae’r lliwiau a ddefnyddir wedi’u hysbrydoli gan draddodiadau tecstilau’r diwylliannau hyn.
Ar hyn o bryd mae Menna’n addysgu’n grŵp cymunedol Threads y Glynn Vivian ar brynhawn dydd Mawrth yn yr Oriel.
Categorïau