Dydd Sadwrn 11 Ionawr 2020
10:00 am - 4:00 pm
Cynhelir Diwrnodau Hwyl i’r Teulu’n fisol ac maent yn cynnwys gweithgareddau a digwyddiadau creadigol â thema i’r teulu cyfan. Dewch i archwilio’n harddangosfeydd anhygoel ac ymuno ag un o’n gweithdai lle gallwch gadw lle i greu rhywbeth cyffrous a dysgu rhywbeth yn ystod y broses. Neu gallwch alw heibio rhwng 10:30 a 13:00 i roi cynnig ar weithgareddau crefft difyr a gwylio ffilm i’r teulu am ddim. Mae rhywbeth i bawb, ac mae digonedd o ddanteithion ar gael yn ein caffi.
10:00-13:00 – Gweithidai Teulu Dydd Sadwrn
Oed 4-11
Arbrofwch gyda dyfrlliwiau a dysgwch dechnegau ac effeithiau gwahanol er mwyn creu eich cread 3D eich hunan.
Rhaid cadw lle www.ticketsource.co.uk/glynnvivian
Tocynnau £3
10:30-13:00 – Gweithdy Paentio Tirlun Dychmygol Amlgyfrwng: gweithdy galw heibio
Pob oed
Am ddim, cyfraniad awgrymiadol £3
13:30 – Clwb Ffilm Teulu
Pob oed
How to Train Your Dragon; The Hidden World (PG) 2019
Pennod olaf hynod gyffrous y gyfres o ffilmiau i blant.
Am ddim, cyfraniad awgrymiadol £3
14:00 -16:00 – Gwneuthurwyr Ifanc
Oed 12-16
Gweithdy celf hwyl ac arbrofol ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb mewn gwthio ffiniau eu celf yw Gwneuthurwyr Ifranc. Bydd y grwˆp yn archwilio cyfryngau celf gwahanol gan gynnwys animeiddio, cerflunio, gwneud printiau, darlunio, paentio a llawer mwy.
Rhaid cadw lle www.ticketsource.co.uk/glynnvivian
Tocynnau £3
Oriel Gelf Glynn Vivian
Alexandra Road, Swansea, SA1 5DZ
map
Categorïau