Dydd Sadwrn 23 Mawrth 2024 - Dydd Sul 1 Medi 2024
10:00 am - 4:30 pm
Mewn partneriaeth â Chyfeillion y Glynn Vivian
Glynn Vivian gyda’r Hwyr, nos Wener 22 Mawrth 2024, 5:30pm – 8:00pm
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch iawn o fod yn dathlu 25 mlynedd ers sefydlu Gwobr Wakelin gydag arddangosfa ôl-weithredol a fydd yn dod â gwaith enillwyr y gorffennol at ei gilydd.
Mae’r wobr flynyddol a sefydlwyd er cof am yr artistiaid Richard a Rosemary Wakelin o Abertawe, yn cael ei rhoi i artist sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru, y caiff ei waith ei brynu ar gyfer casgliad parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian.
Mae enillwyr blaenorol y wobr yn cynnwys Robert Harding, David Tress, Pete Davis, Craig Wood, David Garner, Tim Davies, Dick Chappell, Brendan Stuart Burns, Anthony Shapland, Catrin Webster, Jonathan Anderson, Meri Wells, David Cushway, Helen Sear, Clare Woods, Alexander Duncan, Philip Eglin, Richard Billingham, Anya Paintsil, Cinzia Mutigli ac Ingrid Murphy.
Meddai Dr Peter Wakelin, “Pan sefydlom y wobr ar ôl i fy mam farw ym 1998, roeddem yn credu y byddai’n rhywbeth y byddai ein rheini wedi’i mwynhau gan eu bod yn dwlu ar y Glynn Vivian, ac y byddai’n para am ychydig flynyddoedd. Ni feddyliom erioed y byddai’r cynllun yn parhau i fod mor werth chweil ar ôl chwarter canrif. Mae’n wych edrych nôl ar yr artistiaid y mae’r Wobr wedi’u cefnogi yn yr amser hwnnw a’r cyfoeth o waith sydd wedi cael ei ychwanegu at gasgliad y Glynn Vivian i’w fwynhau gan bobl Abertawe.”
Ychwanegodd Louise Burston, Cadeirydd Cyfeillion y Glynn Vivian, “Mae’r Cyfeillion yn falch iawn o fod yn ymwneud â gwobr mor nodedig. Mae’n galonogol gallu cefnogi artistiaid o Gymru a chyfrannu tuag at gasgliad celf gyfoes yr oriel, ac mae hefyd yn ddiddorol iawn gweld gwaith pwy y bydd y detholwr enwebedig yn ei ddewis. Dros y blynyddoedd, mae’r wobr wedi cael ei rhoi i ddetholiad aruthrol o amrywiol o artistiaid o ddisgyblaethau gwahanol ac ar gamau gwahanol yn eu gyrfaoedd.”
Meddai Karen Mackinnon, Curadur, Oriel Gelf Glynn Vivian, “Mae Gwobr Wakelin wedi galluogi’r oriel i gaffael celfweithiau gwych ar gyfer ei chasgliad parhaol dros y 25 mlynedd diwethaf. Mae’r bartneriaeth unigryw rhwng y teulu Wakelin a Chyfeillion Oriel Gelf Glynn Vivian yn arbennig iawn o ran y gefnogaeth mae’n ei chynnig i’r oriel, artistiaid yng Nghymru a’r gweithiau y mae’n ein galluogi i’w rhannu â chynulleidfaoedd a chymunedau. Mae’r arddangosfa hon yn ddathliad o’r hyn y mae’r wobr wedi’i chyflawni dros gynifer o flynyddoedd.”
Gweinyddir a chefnogir y wobr gan Gyfeillion y Glynn Vivian ac fe’i hariennir drwy roddion er cof am Richard a Rosemary Wakelin.
Mae celfweithiau dethol yn yr arddangosfa hon ar fenthyg gan Amgueddfa Cymru – Amgueddfa Genedlaethol Cymru fel rhan o’r fenter Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru, Celf ar y Cyd.
Enillwyr blaenorol y wobr:
2000 - Robert Harding
2001 - David Tress
2002 - Pete Davis
2003 - Craig Wood
2004 - David Garner
2005 - Tim Davies
2006 - Dick Chappell
2007 - Brendan Stuart Burns
2008 - Anthony Shapland
2009 - Catrin Webster
2010 - Jonathan Anderson
2011 - Meri Wells
2012 - David Cushway
2013 – Helen Sear
2014 - Clare Woods
2015 – Alexander Duncan
2017 - Philip Eglin
2018 – Richard Billingham
2020 – Anya Paintsil
2021 – Cinzia Mutigli
2022 – Ingrid Murphy
Richard a Rosemary Wakelin
Roedd Richard Wakelin (1921 – 1987) a Rosemary Culley (1919 – 1998) yn artistiaid a oedd yn gweithio yn Abertawe o ddiwedd y 1950au. Fe’u ganed yng Nghaerdydd a chyfarfuont pan oeddent yn fyfyrwyr yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru ym 1939 cyn mynd i’r lluoedd arfog dros gyfnod y rhyfel Priododd y ddau ym 1947. Bu Richard yn gweithio fel pensaer mewn practis preifat yn Abertawe ac yn ddiweddarach gyda chyngor y ddinas (lle’r oedd ei rôl yn cynnwys gwaith gofal ac addasu yn Oriel Gelf Glynn Vivian). Fel artistiaid, roedd y ddau’n gweithio mewn arddulliau haniaethol, ond roeddent yn gwerthfawrogi pob math o gelf a chrefft. Gweithiodd y pâr gyda sawl sefydliad i hyrwyddo’r celfyddydau gweledol, yn arbennig Cymdeithas Gelfyddydau Abertawe, Cymdeithas Artistiaid a Dylunwyr Cymru, 74 Guild of Artist Craftsmen, y Grŵp Cymreig a Chyfeillion Oriel Glynn Vivian.
Roeddent yn gyd-sylfaenwyr Gweithdy Celf Abertawe, Oriel Mission erbyn hyn, yn yr Ardal Forol, Roeddent yn awyddus i helpu ac annog artistiaid a chrefftwyr talentog, ac i ehangu mwynhad o’r celfyddydau yn Abertawe. Enwau’r tri phlentyn sydd yn fyw yw Andrew, Sally (a’i merch Kate) a Peter Wakelin. Bu farw eu mab hynaf Martin yn 2012 gan adael ei wraig Christine Townley a’i ferch Megan, sy’n parhau i ymddiddori yn y wobr.
Cyfeillion y Glynn Vivian
Mae cymdeithas Cyfeillion y Glynn Vivian, a sefydlwyd ym 1958, wedi ffynnu ers hynny. Fel elusen annibynnol, caiff ei rhedeg yn gyfan gwbl gan ei haelodaeth, ac mae’n cyfrannu at brynu gweithiau sy’n ehangu casgliad yr Oriel ac yn cefnogi rhaglenni’r Oriel. Mae’n sefydliad bywiog, ac yn un y mae ei rhaglen ddigwyddiadau’n cynnwys darlithoedd, ymweliadau y tu ôl i’r lenni a digwyddiadau cymdeithasol. Mae’r Cyfeillion bob amser yn awyddus i groesawu aelodau newydd. I gael rhagor o wybodaeth am sut i ymuno, ewch i www.friendsoftheglynnvivian.com
Categorïau