Dydd Gwener 25 Mehefin 2021
6:00 pm - 11:45 pm
Gwyliwch ddangosiad cyntaf ffilm Kathryn Ashill sef Fools Gold, enillydd Gwobr Artist Ifanc Syr Leslie Joseph, a weinyddir gan Gyfeillion y Glynn Vivian.
Mae arfer amlddisgyblaethol Ashill yn cynnwys actio amatur, byrddau theatr, diwylliant Brenin Drag, fideo a pherfformiad.
Yn y gosodiad fideo hwn, mae Ashill yn archwilio profiadau personol, hunaniaeth dosbarth gweithiol a’i hanes tadol.
Gallwch weld y gyfres lawn o ddigwyddiadau, sgyrsiau a’i ffilm ar-lein, i gyd-fynd â’r sioe yn Oriel Gelf Glynn Vivian.
Dangosiad am ddim. Ar gael ar sianel YouTube y Glynn Vivian
Categorïau