Dydd Mercher 26 Mai 2021 - Dydd Sul 20 Mehefin 2021
10:30 am - 4:00 pm
Bydd yr artist o Abertawe sy’n dod i’r amlwg, Dafydd Williams wedi’i swyno gan arddull chiaroscuro, sef y dechneg a ddatblygwyd gan Michelangelo a Caravaggio, i greu golau er mwyn creu sylwedd a chysgod.
Mae’r gyfres hon o ffotograffau wedi’u goleuo’n naturiol yn cynnwys Williams a’i bartner mewn perthynas hoyw gyfoes. Mae malum a ddaw o’r gair Lladin am “afal” a “drwg”, yn cyfeirio at yr amgyffrediad hanesyddol o wrywgydiaeth a dyma ymgais.
Williams i ddangos y ddadl ddisynnwyr fod gwrywgydiaeth yn ‘ffenomen newydd’. Drwy wneud hynny, mae Williams yn gobeithio dryllio delw neu ailddehongli hanes celf gorllewinol.
Rhaglennwyd y gyfres hon mewn partneriaeth â Pride Abertawe a Mis Hanes LGBT ac fe’i cefnogwyd yn hael gan Art Fund, Cyfeillion Oriel Glynn Vivian a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Bydd yr arddangosfeydd hyn, sy’n cynnwys arddangosfa fideo, ffotograffiaeth, paentiadau, tafluniadau fideo a pherfformiadau, yn archwilio themâu cydberthnasol cynwysoldeb, amrywiaeth, rhyw, iaith, systemau ideolegol a gwleidyddol a newid hinsawdd.
Gwyliwch Dafydd Williams yn trafod ei arfer a’i arddangosfa, malum, ar ein sianel YouTube
Arddangosfeydd eraill yn y gyfres hon
Charles Atlas, The Tyranny of Consciousness
Roy Efrat and Catrin Webster, Pansy
Dafydd Williams
Er ei fod yn bennaf yn gweithio gyda chyfryngau lens, mae gwaith Williams hefyd yn cynnwys gosodiadau a phaentio i archwilio ffyrdd o fyw a theorïau gwrywgydiol. Fel artist sy’n ddyn hoyw, mae ganddo ddiddordeb yn y ddynameg rhwng celf a gweithredaeth wrth gynyddu ymwybyddiaeth o wahaniaethu yn erbyn y gymuned LGBTQI yn hanesyddol ac yn y byd sydd ohoni a gweithio tuag at wneud newid cymdeithasol cadarnhaol.
Categorïau