Dydd Sadwrn 11 Mehefin 2022 - Dydd Sul 19 Mehefin 2022
11:00 am - 4:30 pm
Gweithdai Creadigol ar gyfer pobl ifanc
Fel rhan o brosiect ar draws y DU gyda’r Oriel Bortreadau Genedlaethol, Llundain, rydym yn gweithio gyda dau ffotograffydd anhygoel i archwilio pwy fyddai pobl ifanc yn eu nodi fel modelau rôl ac arwyr y dyfodol yn niwylliant Cymru, ac i gomisiynu gwaith newydd ar gyfer arddangosfa sy’n cynnwys portreadau o arwyr Cymru.
Ddydd Sadwrn 11 a dydd Sul 12 Mehefin, gallwch ymuno â’r ffotograffydd Mohamed Hassan am weithdy deuddydd; gallwch ddysgu o flynyddoedd o brofiad a mewnwelediad Mohammed o gyfleu portread o berson, gan gyflwyno cysyniadau a syniadau allweddol ar y diwrnod cyntaf, a chyfle i arbrofi gyda thynnu eich portread eich hun ar yr ail ddiwrnod.
Ddydd Sul 19 Mehefin, ymunwch â’r ffotograffydd Megan Winstone am sesiwn ar-lein wrth iddi gyflwyno sioe sleidiau gyflym o destun posib gyda ffeithiau amdanynt. Pwy sy’n eich ysbrydoli chi? Gyda sesiwn fyw drwy Google lle rennir y sgrîn, bydd y sesiwn anffurfiol a chynhwysol hon yn ein helpu i lunio’r arddangosfa sydd ar ddod yn yr Oriel yn yr hydref am arwyr a modelau rôl heddiw yn niwylliant Cymru.
Darperir yr holl ddeunyddiau.
Ad-delir costau teithio a darperir cinio a lluniaeth.
Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim. Rhaid cadw lle
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Cadwch lle nawr Dydd Sadwrn 11.06.22 a Dydd Sul 12.06.22
Cadwch lle nawr – Criw Celf yr Ifanc, ‘Tynnu lluniau portread’
Ffotograffydd portreadau a chelfyddyd gain sy’n byw yng Nghymru yw Mohammed Hassan, a ddaw’n wreiddiol o Alexandria, yr Aifft.
Ers iddo ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Ffotograffiaeth o Ysgol Gelf Caerfyrddin, mae Mo wedi arddangos ei waith yn yr Aifft, Llundain, Moroco a Chymru ac mae’n treulio’i amser yn gweithio yn Sir Benfro a’r Aifft. Mae hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer sawl gwobr a chystadleuaeth ryngwladol nodedig, yn ogystal â rhai cenedlaethol yng Nghymru.
www.mohamedhassanphotography.com
Cadwch lle nawr, Dydd Sul, 19.06.22
https://us06web.zoom.us/j/86471984955?pwd=bTVFb05pNnF2QjJSUFpBeStHZ01JUT09
Mae’r ffotograffydd Megan Winstone yn defnyddio diwylliant pync a theorïau ffeministaidd mewn ffordd chwareus i chwalu disgwyliadau cymdeithasol a delweddau corff negyddol.
Mae ei gwaith wedi tynnu sylw at ei threftadaeth Gymreig, sydd wedi arwain at ei chydweithrediad â Dr Martens, Stella McCartney, The Face, Vogue a llawer mwy. Fe’i cydnabuwyd yn fenyw adnabyddus o bwys gan gylchgrawn W ac mae wedi’i chynnwys yn rhestr New Wave Creatives Cyngor Ffasiwn Prydain yn 2020. Mae Megan hefyd yn perfformio o flaen y camera mewn fideos cerddorol ar gyfer sêr fel Sam Smith ac Adam Lambert.
Cyd-ddylunnir y Rhaglen Partneriaeth Rhannu Sgiliau Cenedlaethol gyda phartneriaid i greu rhwydwaith o amgueddfeydd ac orielau â’r nod o archwilio materion fel hunaniaeth, cynrychiolaeth a pherthnasedd cyfoes portreadau heddiw.
Mae’r Bartneriaeth Rhannu Sgiliau Cenedlaethol yn rhan o Gynllun Gweithgarwch Ysbrydoli Pobl yr Oriel Bortreadau Genedlaethol, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a’r Gronfa Gelf.
Categorïau