Dydd Sadwrn 8 Hydref 2022
11:00 am - 1:00 pm
YN NEWYDD AR GYFER 2022: Ymunwch â’n dosbarth newydd ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed.
Cymerwch ran mewn gweithdai a digwyddiadau creadigol ac arbrofwch gyda deunyddiau a thechnegau gwahanol.
Byddwch yn cael cyfle i archwilio a thrafod yr arddangosfeydd gorau ar draws y ddinas, a chwrdd â phobl newydd o’r un meddylfryd ar hyd y ffordd.
Gweithdy addasu dillad a stensilio
16 – 24 Oed
Ymunwch â’r artist graffiti Kyle Legall i archwilio defnyddio technegau stensilio i greu eich dillad wedi’u haddasu eich hunan.
Comisiynwyd Kyle yn ddiweddar i greu Glôb Cymunedol fel rhan o brosiect cerfluniau a gynhaliwyd ar draws y DU sef, ‘The World Reimagined‘, sydd bellach yn cael ei arddangos yn yr oriel.
Dewch â hen ddillad, crysau-T, bagiau cario, crysau, siwmperi, cotiau… a rhowch fywyd newydd iddynt!
Mae tocynnau bysus Bae Abertawe ar gael ar gais yn y sesiwn hon
Am ddim, Rhodd o £3 yn ddewisol
Rhaid cadw lle. Mae lleoedd yn brin. Ffoniwch 01792 516900
CADWCH LLE NAWR
Categorïau