Dydd Iau 18 Mawrth 2021
10:30 am - 3:00 pm
Dosbarth celf agored sy’n archwilio arddangosfeydd a chasgliadau’r oriel ac yn ymateb iddynt. Trwy ddefnyddio deunyddiau a thechnegau gwahanol, rydym yn cynnig cyfleoedd i gyfranogwyr ddatblygu eu sgiliau a’u hyder, a chwrdd â phobl newydd. Mae’r dosbarthiadau hyn yn ddelfrydol i unrhyw un nad yw mewn addysg brif ffrwd, plant sy’n derbyn addysg gartref a’r rheiny sy’n chwilio am her newydd.
Darganfod (6-10 oed)
Dydd Iau, 10:30 – 11:30
Cyflwyniad arbrofol a difyr i ddeunyddiau a syniadau celf, a lle’r oriel. Fel rhan o’r grŵp hwn byddwn yn cynnig cyfle i artistiaid ifanc gwblhau eu lefel Darganfod Arts Award.
Efydd (11-14 oed)
Dydd Iau, 12:00-13:30
Amrywiaeth o weithdai arbrofol, celf gydweithredol, sgyrsiau a thiwtorialau sy’n ymateb i gasgliadau’r oriel a sioeau celf gyfoes. Fel rhan o’r grŵp hwn rydym yn cynnig cefnogaeth i artistiaid ifanc sy’n ceisio cwblhau eu lefel Efydd Arts Award. Mae lefel Efydd Arts Award yn gymhwyster Lefel 1 ar y Fframwaith Cymwysterau Rheoledig (RQF). Does dim angen i gyfranogwyr gwblhau’r cymhwyster hwn er mwyn ymuno â’r grŵp.
Arian (14-16 oed)
Dydd Iau, 14:00 – 15:00
Amrywiaeth o weithdai, tiwtorialau, tasgau arweinyddiaeth, dadansoddi celf a gwaith hunanarweiniedig. Mae lefel Arian Criw Celf yr Ifanc yn gyfle i bobl ifanc sydd am gynyddu eu diddordeb mewn ffurf gelf benodol a datblygu eu sgiliau celf ac arweinyddiaeth. Fel rhan o’r grŵp hwn rydym yn cynnig cefnogaeth i artistiaid ifanc sy’n ceisio cwblhau eu lefel Arian Arts Award a chymhwyster Lefel 2 ar y Fframwaith Cymwysterau Rheoledig (RQF) sy’n cynnwys cyfanswm o 95 awr o ddysgu. Does dim angen i gyfranogwyr gwblhau’r cymhwyster hwn er mwyn ymuno â’r grŵp.
E-bostiwch Richard.Monahan@abertawe.gov.uk am ragor o wybodaeth ac i gofrestru.
Bydd y gweithdy hwn yn cael ei gynnal yn fyw ar Zoom.
Am ddim i gymryd rhan ynddo ar-lein Does dim angen talu.
Categorïau