Dydd Mercher 26 Mehefin 2024
6:00 pm - 8:00 pm
Oedran: 16+ oed
Yn ystod y gweithdy arbrofol hwn byddwn yn archwilio sgoriau perfformiad, gan chwarae gydag ystumiau corfforol mewn tirwedd ddigidol.
Bydd yr artist Vivian Ross-Smith yn trafod sut y mae hi’n cyfuno gwagleoedd digidol a chorfforol trwy berfformiad a chyda’n gilydd byddwn yn ail-greu sgoriau ac yn ysgrifennu rhai ein hunain i ddod o hyd i ffyrdd i gysylltu ein blychau Zoom unigol â chymuned ddigidol.
Cyfres o gyfarwyddiadau yw sgôr perfformiad sy’n amlinellu symudiad unigol neu gyfres o symudiadau sy’n cynhyrchu perfformiad neu ystum.
Mae Vivian yn ystyried sut y gall y rhyngrwyd weithredu fel man cyfarfod hanfodol ar gyfer pobl a syniadau ac yn caniatáu i’r syniadau o leoliad ‘canolog’ gael ei ailddiffinio. Mae’r gweithdy hwn yn dathlu parodrwydd dieithriaid i ffurfio cymuned a chefnogi creadigrwydd ei gilydd o bellter.
Mae’r prosiect Creu Cymru Cwiar cysylltu pobl yn cael ei rhedeg gan On Your Face
Menter gymdeithasol yw OYF sy’n annog amlygrwydd i bobl greadigol LHDTC+ Cymru trwy ddigwyddiadau diwylliannol cwiar yn yr ardaloedd gwledig, cyfeirlyfr ar-lein (onyourfacecollective.org) a chreu swyddi â thâl ar gyfer y gymuned ar draws Cymru.
I ddarganfod rhagor, cymerwch gip ar ein tudalen Instagram @onyourfacecollective neu ewch i www.onyourfacecollective.org
Categorïau