Dydd Mercher 27 Tachwedd 2024
6:00 pm - 8:00 pm
Mae’r ffordd rydym yn gweld pethau’n dylanwadu ar y penderfyniadau rydym yn eu gwneud, y camau rydym yn eu cymryd ac yn y pen draw, ein harfer celf a’n dyfodol proffesiynol.
Sut mae un yn arddangos ei waith, yn creu arfer cynaliadwy ac yn gwneud bywoliaeth fel artist? Yn ystod oes lle mae pawb yn troi at gyfryngau cymdeithasol i gael sylw ac i farchnata, mae’n anodd gwybod pa lwybr i’w ddilyn nesaf.
Testun y sgwrs hon fydd taith Caitlin Flood-Molyneux fel artist ac entrepreneur creadigol, a thrafodir y camau a gymerwyd ar y daith, o orffen y brifysgol i arddangos yn Sotheby’s a Christie’s.
Gan ddefnyddio llu o arbenigedd o’u harfer eu hun yn ogystal â’r hyn a ddysgwyd gan artistiaid eraill, bydd Caitlin yn cynnig safbwyntiau gwahanol ynghylch sut y gall gyrfa ym maes celf fod yn wahanol i wahanol artistiaid.
Cofrestrwch ymlaen llaw ar gyfer y cyfarfod hwn: Zoom Link
Mae’r prosiect Creu Cymru Cwiar cysylltu pobl yn cael ei rhedeg gan On Your Face
Menter gymdeithasol yw OYF sy’n annog amlygrwydd i bobl greadigol LHDTC+ Cymru trwy ddigwyddiadau diwylliannol cwiar yn yr ardaloedd gwledig, cyfeirlyfr ar-lein (onyourfacecollective.org) a chreu swyddi â thâl ar gyfer y gymuned ar draws Cymru.
I ddarganfod rhagor, cymerwch gip ar ein tudalen Instagram @onyourfacecollective neu ewch i www.onyourfacecollective.org
Categorïau