Dydd Mercher 30 Ebrill 2025
6:00 pm - 7:30 pm
Mae’r gweithdy dwyieithog hwn yn eich gwahodd i ystyried ystyr cyfiawnder fel person cwiar – yn enwedig fel person cwiar yng Nghymru – a sut mae cyfiawnder (neu ddiffyg cyfiawnder) yn rhan o hanes cwiar yn gyffredinol.
Bydd Luke yn cyflwyno’r gweithdy’n ddwyieithog a bydd yn defnyddio ei ymchwil academaidd ei
hun o iaith a hanes LHDTC+ yng Nghymru i ategu’r gweithdy.
Gwybodaeth am Hygyrchedd: Bydd dehongliad Iaith Arwyddion Prydain
- Cyflwyniad a thorri’r iâ
- Trosolwg o hanes LHDTC+ a’r system gyfreithiol yng Nghymru
- Ymarfer cwmwl geiriau am beth mae Cyfiawnder Cwiar yn ei olygu i chi
- Enghreifftiau o unigolion hanesyddol LHDTC+ o Gymru a phrofiadau â’r
system gyfreithiol - Gwahoddiad i ystyried sut olwg y gall fod ar gyfiawnder y tu hwnt i’r system
gyfreithiol a’r gyfraith
Deunyddiau: Llyfr nodiadau a phin
Cofrestrwch ymlaen llaw ar gyfer y cyfarfod hwn: Zoom Link
Mae’r prosiect Creu Cymru Cwiar cysylltu pobl yn cael ei rhedeg gan On Your Face
Menter gymdeithasol yw OYF sy’n annog amlygrwydd i bobl greadigol LHDTC+ Cymru trwy ddigwyddiadau diwylliannol cwiar yn yr ardaloedd gwledig, cyfeirlyfr ar-lein (onyourfacecollective.org) a chreu swyddi â thâl ar gyfer y gymuned ar draws Cymru.
I ddarganfod rhagor, cymerwch gip ar ein tudalen Instagram @onyourfacecollective neu ewch i www.onyourfacecollective.org
Categorïau