Dydd Mercher 31 Gorffennaf 2024
6:00 pm - 8:00 pm
Gan ddefnyddio fy ymarfer fy hun fel map ffordd, byddwn yn archwilio sut y gallwn oresgyn rhwystrau a chynnwys llawenydd di-drefn yn ein hymarferion creadigol!
Byddwn yn edrych ar: groesawu amherffeithiadau, ymdopi â rhwystrau ffyrdd creadigol, dod o hyd i’n hysbrydoliaeth (a’r hyn i’w wneud gyda hi unwaith y byddwn wedi dod o hyd iddi), bod yn garedig i’n hunain pan na chawn y canlyniad rydym yn ei ddisgwyl a sut y gallwn ddod â mwy o lawenydd a hwyl yn i’n hymarfer creadigol.
I bwy y mae’r gweithdy hwn: Artistiaid newydd (neu bobl sy’n chwilfrydig am ddod yn greadigol), artistiaid presennol sy’n wedi mynd i rigol gyda’u hymarfer/ar gam trawsnewid yn eu hymarfer, unrhyw un sydd am gael ychydig o ysbrydoliaeth/adfywiad yn eu hymarfer creadigol.
Fel rhywbeth i ategu’r sgwrs, byddwn hefyd yn gwneud ein creaduriaid cardbord ein hunain sef Bwystfilod Llawenydd, a fydd yn gallu gwasanaethu fel ein hyrwyddwyr creadigol!
Bydd y sesiwn yn cynnwys gweithdy a sgwrs, gyda chymorth cyflwyniad Powerpoint. Bydd y gweithdy’n cael ei gynnal ochr yn ochr â’r sgwrs ac mae croeso i chi eistedd a gwrando, cymryd nodiadau, sgrinluniau neu barhau â thasg y gweithdy wrth i mi siarad (p’un bynnag sy’n gweddu orau i’ch arddull wrando). Byddwn yn stopio ar adegau yn ystod y sgwrs er mwyn cael cip ar yr hyn rydym yn ei wneud/rhoi rhagor o gyfarwyddiadau. Bydd egwyl fer o 5 munud hefyd yng nghanol y sgwrs.
Mae’r sgwrs hon yn addas i bob oed.
Deunyddiau:
- Cardbord : mae bocs grawnfwyd neu ddeunydd pecynnu cardbord yn gweithio’n dda.
- Rhywbeth i’w lynu at ei gilydd. mae tâp masgio neu styffylwr yn ddelfrydol. (gall glud fod yn lletchwith gan fod angen i chi aros iddo sychu, ond mae glud poeth yn gweithio.)
- Pinnau blaen ffelt/marcwyr/paent – unrhyw beth yr hoffech chi ei ddefnyddio i wneud marc!
- Sisyrnau (er, gallwch rwygo’r cardbord hefyd!)
Cofrestrwch ymlaen llaw ar gyfer y cyfarfod hwn: Zoom Link
Mae’r prosiect Creu Cymru Cwiar cysylltu pobl yn cael ei rhedeg gan On Your Face
Menter gymdeithasol yw OYF sy’n annog amlygrwydd i bobl greadigol LHDTC+ Cymru trwy ddigwyddiadau diwylliannol cwiar yn yr ardaloedd gwledig, cyfeirlyfr ar-lein (onyourfacecollective.org) a chreu swyddi â thâl ar gyfer y gymuned ar draws Cymru.
I ddarganfod rhagor, cymerwch gip ar ein tudalen Instagram @onyourfacecollective neu ewch i www.onyourfacecollective.org
Categorïau