Dydd Sadwrn 15 Ebrill 2023
12:00 pm - 3:00 pm
Ymunwch â ni am Ddiwrnod Gyrfaoedd arbennig i ddysgu sut y gallwch gymryd eich camau cyntaf i’r diwydiannau teledu, ffilm a cherddoriaeth.
Yn addas i blant 14+ oed
Gyda gwesteion o Screen Alliance Wales a Cyfuno Abertawe, byddwch yn gallu gofyn cwestiynau a chael cyngor gan arbenigwyr yn y diwydiant.
Mae Screen Alliance Wales yn gweithio ar draws cynyrchiadau teledu a ffilm amrywiol yng Nghymru, gan nodi cyfleoedd i’r rheini sy’n ceisio dilyn gyrfa yn y diwydiant, yn ogystal â’r rheini â sgiliau y mae galw amdanynt na fyddai pobl wedi’u hystyried o’r blaen.
Mae rhaglen Cyfuno yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n creu cyfleoedd drwy ddiwylliant. Bydd Cyfuno Abertawe, rhan o wasanaethau diwylliannol Cyngor Abertawe, yn cyflwyno’r siaradwr gwadd, Simon Parton, a fydd yn rhoi gwybodaeth ac awgrymiadau am sut i ddechrau yn y diwydiant cerddoriaeth.
Bydd gwybodaeth ar y diwrnod yn cynnwys:
-
Y grantiau a’r cyfleoedd ariannu sydd ar gael
-
Awgrymiadau ar sut i greu incwm
-
Adeiladu portffolio
-
Cyfryngau cymdeithasol a marchnata
-
Camau tuag at ddod yn weithiwr llawrydd
-
Adborth ar gyfer CV
Galwch heibio a dewch i ddarganfod sut gallwch gynllunio ar gyfer gyrfa yn y diwydiannau creadigol.
Categorïau